Serbia

From Wikipedia, the free encyclopedia

Serbia
Remove ads

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw Gweriniaeth Serbia neu Serbia. Mae'n ffinio â Hwngari i'r gogledd, Rwmania a Bwlgaria i'r dwyrain, Gogledd Macedonia ac Albania i'r de a Montenegro, Bosnia a Hertsegofina a Croatia i'r gorllewin. Er fod y wlad yn fechan, llifa afon fwyaf yr Undeb Ewropeaidd sef y Danube drwyddi am 21% o'i hyd cyfan. Mae Belgrade sef prifddinas Serbia, yn un o ddinas mwyaf poblog de-ddwyrain Ewrop.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...

Roedd Serbia'n rhan o Deyrnas Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid o 1918 i 1941 (Teyrnas Iwgoslafia wedi 1929), Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia o 1945 i 1992, Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia o 1992 i 2003 a Serbia a Montenegro o 2003 i 2006.

Ym mis Chwefror 2008, datganodd senedd Kosovo, sef talaith ddeheuol Serbia gyda mwyafrif ethnig Albaniaid eu hannibyniaeth. Cymysg fu ymateb y gymuned rhyngwladol at Kosovo. Mae Serbia'n ystyried Kosovo fel talaith hunan-lywodraethol a reolir gan genhedaeth yr Cenhedloedd Unedig sef Cenhedaeth Gweinyddiaeth Interim y Cenhedloedd Unedig yn Kosovo

Mae Serbia'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, Mudiad Cydweithrediad Economaidd y Môr Du a bydd yn llywyddu dros Cytundeb Masnach Rydd Canolbarth Ewrop yn 2010. Categorïr Serbia yn economi datblygol gan yr International Monetary Fund ac yn economi incwm canol-uwch gan Fanc y Byd.[1]

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads