Geri Allen

cyfansoddwr a aned yn 1957 From Wikipedia, the free encyclopedia

Geri Allen
Remove ads

Pianydd a chyfansoddwraig jazz Americanaidd oedd Geri Allen (12 Mehefin 195727 Mehefin 2017).[1]

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...

Ganwyd Allen ym Mhontiac, Michigan, ond fe'i magwyd yn Netroit[2]. Daeth i'r amlwg fel perfformiwr yn ystod yr 1980au fel rhan o'r mudiad M-Base, arddull oedd yn cyfuno elfennau o jazz rhydd gyda cherddoriaeth hip-hop. Roedd Allen yn ymwneud â jazz rhydd drwy gydol ei gyrfa - fe'i clywyd ar nifer o recordiau hwyr Ornette Coleman - heb erioed gamu'n llawn i'r maes hwnnw yn ei recordiau ei hun. Roedd ei harddull bersonol yn y 90au yn cyfuno elfennau rhydd gyda dylanwadau o gerddoriaeth glasurol.

Yn ogystal â bod yn berfformiwr pwysig, enillodd Allen glod fel addysgwraig. Bu'n Athro mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Pittsburgh, ac yn gyfarwyddwr ar y rhaglen Astudiaethau Jazz yno.

Bu farw Allen o ganser ar 27 Mehefin 2017 yn 60 oed.[3]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads