Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Bardd Cymraeg a ganai yn ail hanner y 14g oedd Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed (tua'r 1330au - tua diwedd y 14g).[1]
Bywgraffiad
Ni wyddys nemor dim am y bardd ar wahân i dystiolaeth ei gerddi, ond ceir nodyn gan Evan Evans (Ieuan Fardd) (18g) yn cyfeirio ato fel gŵr o Farchwiail yng nghwmwd Maelor Gymraeg (ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam heddiw). Roedd un o'i noddwyr, Rhisiart ap Syr Rhosier Pilstwn, yn byw ym Maelor Saesneg. Ymddengys felly fod y bardd yn frodor o ogledd-ddwyrain Cymru, ac efallai o Faelor Gymraeg.[1]
Cerddi
Cedwir tair awdl ac un cywydd o waith y bardd, cyfanswm o 539 llinell. Ceir dwy awdl foliant, un i Ddafydd Fychan ap Dafydd Llwyd o Drehwfa a Threfeilir (Môn), a'r llall i Hywel ap Goronwy ap Tudur Hen o Benmynydd (Môn eto). Canodd gywydd i ofyn telyn i Risiart ap Syr Rhosier Pilstwn, sy'n cynnwys ymddiddan rhyngddo a'i gydfardd Rhisierdyn. Ceir hefyd awdl grefyddol i Grist a Mair.[1]
Llyfryddiaeth
- Erwain Haf Rheinallt (gol.), 'Gwaith Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed', yn Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth, 1995). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads