Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan
bardd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan (bl. canol y 14g). Ceir cryn ansicrwydd am awduraeth yr unig gerdd sydd ar glawr a briodolir iddo ac mae ymgeiswyr eraill am ei hawduraeth yn cynnwys Gruffudd Llwyd ap Dafydd ap Einion Llygliw.[1]
Remove ads
Cefndir
Cofnodir gŵr o'r enw Llywelyn Gaplan yn byw yn ardal Glyn Aeron neu Anhuniog, Ceredigion, yn 1326 ac mae'n bosibl mai ef oedd tad y bardd.[1]
Cerdd
Gwrthrych y cywydd gan Gruffudd Llwyd yw uchelwr o'r enw Rhys. Mae rhai ysgolheigion wedi ceisio ei uniaethu â Rhys Gethin, uchelwr o Nant Conwy ac un o gapteiniaid Owain Glyndŵr, ond tueddir erbyn hyn i dderbyn yr awgrym mai Syr Rhys Ieuanc, mab Syr Rhys ap Gruffudd (c.1283-1356), a fu farw yn 1380.[1]
Llyfryddiaeth
- Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Gruffudd (?Llwyd ap Llywelyn Gaplan)', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads