Gruffudd Maelor I
teyrn From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gruffudd Maelor I neu Gruffudd ap Madog ap Maredudd (bu farw 1191) oedd tywysog cyntaf Powys Fadog.

Remove ads
Bywgraffiad
Pan fu farw ei dad, Madog ap Maredudd yn 1160 rhannwyd Teyrnas Powys. Derbyniodd Gruffudd gantrefi Maelor ac Iâl, ac yn ddiweddarach ychwanegodd Nanheudwy, Cynllaith Owain a Mochnant pan fu farw ei hanner brawd Owain Fychan yn 1187. Yn nes ymlaen gallodd gipio Cyfeiliog oddi ar ei neiaint Owain a Meurig.
Priododd Angharad, merch Owain Gwynedd. Mae Gerallt Gymro yn cofnodi ei fod wedi cael ei berswadio gan yr eglwys i ysgaru Angharad yn 1188; gan fod Owain Gwynedd yn frawd i fam Gruffudd roedd y berthynas rhyngddynt yn rhy agos i ganiatau priodas yn ôl rheolau'r eglwys. Mae Brut y Tywysogion yn ei ddisgrifio fel Yr haelaf o holl tywyssogion kymry. Gadawodd ddau fab, Madog ac Owain.
Remove ads
Llyfryddiaeth
- John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads