Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan
bardd ac uchelwr From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Bardd ac uchelwr o ogledd-ddwyrain Cymru oedd Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (c.1485-1553). Roedd yn byw ym mhlas Lleweni Fechan, ger Llanelwy.[1] Roedd ei ferch Alis Wen yn brydyddes ar y mesurau caeth hefyd.
Remove ads
Gwaith llenyddol
Cymerodd ran fel comisiynydd yn Eisteddfod Caerwys, 1523, gyda Tudur Aled a thri bardd arall. Er ei fod yn feistr llwyr ar y gynghanedd a rheolau Cerdd Dafod, nid oedd yn fardd proffesiynol ond yn ŵr bonheddig a ganai er pleser. Mae'r rhan fwyaf o'i waith yn gerddi serch traddodiadol. Ond canodd ar destunau eraill hefyd, yn cynnwys cerddi gofyn a chanu ar bynciau crefyddol.[1]
Cyfansoddodd farwnad nodedig i'w gyfaill Tudur Aled lle mae'n ei gymharu â beirdd mawr y gorffennol fel Taliesin ac Iolo Goch ac yn canmol ei ddysg.[2]
Remove ads
Llyfryddiaeth
![]() |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Detholiad o waith Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan, gol. J. C. Morrice (Bangor, 1910)
Ceir testun marwnad Gruffudd i Tudur Aled yn:
- T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled, 2 gyfrol (Caerdydd, 1926). Atodiad.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads