Gruffydd ap Rhys ap Thomas

(1478-1521) From Wikipedia, the free encyclopedia

Gruffydd ap Rhys ap Thomas
Remove ads

Uchelwr cyfoethog a phwerus oedd Syr Gruffydd ap Rhys (c. 1478–1521) neu Gruffydd ap Rhys ap Thomas ac a adnabyddir fel Griffith Ryce mewn llawysgrifau Saesneg. Roedd yn fab i Syr Rhys ap Thomas, rheolwr de facto De Cymru a fu mor allweddol i lwyddiant Harri Tudur ym Mrwydr Maes Bosworth yn 1485 ac Efa ap Henry.[1]. Roedd yn dad i Rys ap Gruffudd ond ni throsglwyddwyd ei diroedd, ei deitlau na'i gyoeth i'w fab, gan i Harri VIII, brenin Lloegr eu meddiannu a'i ddienyddio am frad.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Thumb
Cofeb Gruffydd yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.
Remove ads

Magwraeth frenhinol

Cefnogwyd brenin Lloegr gan nifer fawr o uchelwyr Cymru, yn bennaf gan iddynt dderbyn eu tiroedd a'u harian am wrthwynebu Owain Glyn Dŵr. Roedd eu teyrnagrwch i'r brenin yn gyfystyr a theyrngarwch i'r Lancastriaid a Lancastriad oedd Siasbar a Harri Tudur.

Yn 1483 mynnodd Richard III, brenin Lloegr Gruffydd yn wystlys, er mwyn cadw'i dad Rhys ap Thomas yn driw iddo. Mynnodd hefyd fod Rhys yn tyngu llw o ffyddlondeb iddo a gwnaeth hynny i dawelu'r dyfroedd, ond gwrthododd ddanfon ei fab pedair oed ato fel gwystl.[2]

Wedi llwyddiant Harri Tudur a'i dad Rhys ap Thomas ym Maes Bosworth, magwyd Gruffudd a mab hynaf Harri, sef Arthur Tudur gyda'i gilydd am rai blynyddoedd. Dywedwyd ar y pryd eu bod yn ffrindiau da ac yn 1501 gwnaed Gruffydd yn Farchog y Gardas Aur. Roedd gydag Arthur pan ddychwelodd o Lwydlo gyda'i briodferch yn Rhagfyr 1501. Roedd hefyd yn bresennol pan fu farw Arthur yn Ebrill 1502 ac roedd Gruffudd yn un o'r prif alarwyr. Teithiodd gyda chorff y tywysog o Lwydlo i Gaerwrangon gan gario'i faner.

Thumb
Arfau'r teulu Rhys
Remove ads

Teulu

Priododd Catherine St John, perthynas i Margaret Beaufort tua 1507. Ar farwolaeth Harri VII, bu'r brenin newydd yn driw i'r teulu ac aeth Gruffydd gydag ef i gyfarfod a elwir yn Maes y Llian Aur (Field of the Cloth of Gold) yn Ffrainc yn 1520.

Marw'n ifanc

Bu farw'n ifanc - tua 43 oed, a hynny cyn ei dad. Ond gadawodd fab ac etifedd - Rhys ap Gruffydd a ddienyddiwyd ar gam gan Harri VIII, fwy na thebyg gan fod Harri'n brin o bres.

Saif ei feddrod hyd heddiw yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads