Tsiecia
gwlad yng nghanol Ewrop From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwlad ddirgaeëdig yng nghanolbarth Ewrop yw Tsiecia, Tsiechia neu Wlad Tsiec, yn llawn y Weriniaeth Tsiec (Tsieceg: Česká republika ).[1] Y gwledydd cyfagos yw Gwlad Pwyl i'r gogledd, yr Almaen i'r gorllewin, Awstria i'r de a Slofacia i'r dwyrain. Prag ydyw'r brifddinas.
Ar 16 Mawrth 1939 yn ystod yr Ail Ryfel Byd: meddiannodd lluoedd Adolf Hitler Tsiecoslofacia; ar 5 Ionawr 1968 dechreuodd cyfnod o wleidyddiaeth gynyddol ryddfrydol a phrotestio torfol yng Ngweriniaeth Sosialaidd Tsiecoslofacia yn yr hyn a elwir yn Wwanwyn Prag, a pharhaodd tan 21 Awst 1968, pan oresgynnodd yr Undeb Sofietaidd (a'r mwyafrif o aelodau Cytundeb Warsaw) y wlad i atal y diwygiadau hyn. Aelodau Cytundeb Warsaw yr adeg honno oedd Gwlad Pwyl, Hwngari, Dwyrain yr Almaen a Bwlgaria. Aeth y myfyriwr Jan Palach ati i losgi ei hunan i farwolaeth ar 16 Ionawr 1969 mewn brotest yn erbyn y goresgyniad.
Remove ads
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth Tsiecia

Gwlad ddirgaeëdig yw Tsiecia, felly nid oes ganddi arfordir. Mae ei harwynebedd yn 78,866 km2 (30,450 milltir sg).
Hanes
- Prif: Hanes Tsiecia

Gwleidyddiaeth
- Prif: Gwleidyddiaeth Tsiecia
Bu Mirek Topolánek yn Brif Weinidog o 16 Awst 2006 tan 26 Mawrth 2009. Ymddiswyddodd yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth; roedd 101 pleidlais dros y cynnig gan y CSSD a 96 pleidlais yn erbyn. Roedd pedwar cynnig tebyg wedi methu yn ystod yr wythnosau a oedd yn arwain at hyn.
Diwylliant
- Prif: Diwylliant Tsiecia
Economi
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads