Yr Undeb Ewropeaidd
undeb o wladwriaethau Ewropeaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn gymuned wleidyddol ac economaidd sydd â nodweddion goruwchgenedlaethol a rhyng-lywodraethol. Mae'n cynnwys 27 o aelod-wladwriaethau. Sefydlwyd yr UE ym 1993 gan Gytundeb Maastricht, er i'r broses o integreiddio Ewropeaidd gychwyn gyda'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE), a luniwyd gan chwe gwlad Ewropeaidd ym 1957.
Creodd yr UE farchnad sengl sy'n ceisio gwarantu'r rhyddid i symud pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf yn ddirwystr rhwng yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn cynnwys polisïau cyffredin dros fasnach, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a datblygiad rhanbarthol. Ym 1999, cyflwynodd yr UE arian cyfredol cyffredin, sef yr ewro, a fabwysiadwyd gan 13 aelod-wladwriaeth. Mae hefyd wedi datblygu rôl mewn materion polisi tramor, a chyfiawnder a materion cartref.
Gyda bron 500 miliwn o ddinasyddion, cynhyrchodd yr UE gynnyrch mewnwladol crynswth y pen o €11.4 triliwn (£8 triliwn) yn 2007. Mae'n cynrychioli ei aelodau o fewn Sefydliad Masnach y Byd ac mae'n bresennol fel sylwedydd yn uwch-gynadleddau'r G8. Mae 21 o aelodau'r UE yn aelodau o NATO. Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol, sef Senedd Ewrop, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn Ewropeaidd, Llys Cyfiawnder Ewrop a Llys Archwilwyr Ewrop, yn ogystal â gwahanol gyrff eraill, er enghraifft Banc Canolog Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau. Mae dinasyddion yr UE yn ethol aelodau Senedd Ewrop bob pum mlynedd.
Yn y Deyrnas Unedig, cafwyd refferendwm yn 2016 ar y cwestiwn a ddylai'r DU adael yr UE neu aros yn aelod. Roedd mwyafrif pleidleisiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon i aros, yn ogystal ag ardaloedd eraill fel Llundain, Caerdydd, Gwynedd a Cheredigion. Er hynny roedd mwyafrif ar draws y DU i adael, o 52% i 48%.
Remove ads
Hanes
Ganwyd yr Undeb Ewropeaidd fel cydffederasiwn o wledydd i ail-adeiladu Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac er mwyn rhwystro hunllef rhyfel arall. Cymuned Ewropeaidd Economaidd, neu Marchnad Gyffredin oedd enw cyntaf yr UE. Newidiwyd yr enw i Cymuned Ewropeaidd ac wedyn i Undeb Ewropeaidd. Wedi dechrau fel undeb masnach datblygodd yr UE i fod yn undeb economaidd a gwleidyddol.
Remove ads
Aelod-wladwriaethau
Aelodau Presennol
Ers 1 Gorffennaf 2013 mae 28 o aelod-wladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd, ond dim ond 6 o wledydd sefydlodd y CEE ym 1952/1958:
Ymunodd saith gwladwriaeth â'r CEE ar ôl y cychwyn:
- ym 1973: Denmarc, Gweriniaeth Iwerddon a'r Deyrnas Unedig
- ym 1981: Gwlad Groeg
- ym 1986: Portiwgal a Sbaen
- ym 1990: ehangwyd tiriogaeth yr UE â Dwyrain yr Almaen
Ffurfiwyd yr UE yn wreiddiol yn 1993 gan wladwriaethau'r CEE. Mae 15 o wladwriaethau pellach wedi ymuno â'r UE erbyn hyn:
- ym 1995: Awstria, Y Ffindir, a Sweden
- yn 2004: Cyprus, Y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Malta, Gwlad Pwyl, Slofacia a Slofenia
- yn 2007: Bwlgaria a Rwmania
- yn 2013: Croatia
Cafodd Yr Ynys Las ymreolaeth gan Denmarc ym 1979 a gadawodd yr UE ym 1985 ar ôl refferendwm. Gweler hefyd y brif erthygl Ehangu'r Undeb Ewropeaidd.
Gadawodd y DU ym 2020 ar ôl refferendwm
Ymgeiswyr aelodaeth i'r UE
Mae pum gwlad yn ymgeiswyr swyddogol i fod yn rhan o'r UE: Gwlad yr Iâ, Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia Montenegro, Serbia, a Thwrci. Mae Albania a Bosnia a Hertsegofina yn cael eu hystyried yn swyddogol fel ymgeiswyr potensial. Rhestrir Cosofo fel ymgesiydd potensial hefyd, ond ni ystyrir Cosofo fel gwlad annibynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd gan nad yw pob gwlad yn cydnabod Cosofo fel gwlad gwbl ar wahân i Serbia.
Heb fod yn aelod-wladwriaethau o'r UE nac yn ymgeiswyr am aelodaeth, mae perthynas arbennig â'r UE gan sawl gwlad, e.e. Monaco ac Andorra.
Remove ads
Daearyddiaeth a phoblogaeth
Mae maint holl dirwedd 25 aelod-wladwriaeth yr UE (2004) yn 3,892,685 km². Petasai'r UE yn un wlad, byddai'n seithfed fwyaf yn y byd. Roedd poblogaeth yr UE (sef poblogaeth aelod-wladwriaethau'r UE o dan delerau Cytundeb Maastricht) yn 453 miliwn ym mis Mawrth 2004 ac felly, petasai'n un wlad, yn drydedd ar ôl India a Tsieina.
Llywodraethu
Statws
Yr Undeb Ewropeaidd yw'r gyfundrefn ryngwladol fwyaf pwerus yn y byd. Mae nifer o aelod-wladwriaethau wedi rhoi hawliau sofraniaeth genedlaethol i'r UE (er enghraifft arian, polisi ariannol, marchnad fewnol, masnach dramor) ac felly mae'r UE yn datblygu yn rhywbeth tebyg i wladwriaeth ffederal. Beth bynnag, nid ydyw'n wlad ffederal, ond mae'n pwysleisio "subsidiarity" (term arbennig sy'n disgrifo'r egwyddor o benderfynu pethau mor agos â phosib i'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau). Mae'r aelod-wladwriaethau yn rheoli'r cytundebau ac ni all yr UE drosglwyddo hawliau ychwanegol o'r aelod-wladwriaethau i'r UE.
Fframwaith sefydliadol
Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol:
- Senedd Ewrop
- Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (nid i'w gymysgu â'r Cyngor Ewropeaidd)
- Comisiwn Ewropeaidd
- Llys Cyfiawnder y Cymunedau Ewropeaidd
- Llys Archwilwyr Ewrop
Sefydliadau gwleidyddol yw'r Senedd, y Cyngor a'r Comisiwn, sy'n dal grym gweithredol a deddfwriaethol yr Undeb. Mae'r Senedd yn cynrychioli'r dinasyddion, mae'r Cyngor yn cynrychioli eu llywodraethau, ac mae'r Comisiwn yn cynrychioli'r budd Ewropeaidd cyffredinol. Y Comisiwn yn unig sydd â'r hawl i ddrafftio deddfwriaeth. Cyflwynir deddfwriaeth ddrafft i'r Senedd a'r Cyngor, y mae rhaid iddynt ei chymeradwyo, er bod y weithdrefn benodol yn dibynnu ar bwnc y ddeddfwriaeth dan sylw. Unwaith wedi'i chymeradwyo ac wedi'i llofnodi, mae'r ddeddfwriaeth yn dod i rym. Dyletswydd y Comisiwn yw sicrhau y cydymffurfir â chyfraith yr Undeb.

Deg gwlad mwyaf eu heconomi - gan gyfrif yr Undeb Ewropeaidd fel un wlad; mwyaf o ran Cynnyrch mewnwladol crynswth yn 2011.[8]
Mae hefyd nifer o gyrff ac asiantaethau pwysig eraill nad ydynt yn sefydliadau swyddogol. Mae'r rhain yn cynnwys dau bwyllgor ymgynghorol, sef Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol, sy'n rhoi eu cyngor ynghylch materion rhanbarthol, economaidd a chymdeithasol.
Mae cyrff ac asiantaethau eraill yn cynnwys:
- Banc Canolog Ewrop
- Banc Buddsoddi Ewrop
- Asiantaeth Amgylchedd Ewrop
- Europol
- Swyddfa Cyhoeddiadau Swyddogol
- Ombwdsman Ewropeaidd
Bydd Cytundeb Lisbon yn gwneud nifer o newidiadau i fframwaith sefydliadol yr Undeb. Daw'r Cyngor Ewropeaidd a Banc Canolog Ewrop yn sefydliadau llawn, a chaiff Llys y Gwrandawiad Cyntaf ei ailenwi yn "Lys Cyffredinol".
Polisïau
Dechreuodd yr UE fel grŵp o wledydd yn cydweithredu'n economaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd wedyn i gynnwys cydweithredu gwleidyddiol. Fel hynny, roedd pŵer gwleidyddiol yn symud o'r aelod-wladwriaethau i sefydliadau'r UE. Beth bynnag, mae hynny'n cael ei cydbwyso gan y ffaith bod gan nifer o aelod-wladwriaethau draddodiad o lywodraeth gryf yn eu rhanbarthau. Mae pwysigrwydd rhanbarthau Ewrop yn cynyddu a sefydlwyd Pwyllgor y Rhanbarthau trwy Gytundeb Maastricht.
Remove ads
Statws yr iaith Gymraeg
Ers blynyddoedd mae unigolion a grwpiau wedi bod yn pwyso ar yr Undeb a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godi statws swyddogol yr iaith Gymraeg o fewn yr Undeb.
Ar 20 Tachwedd 2008, gwnaeth Alun Ffred Jones hanes drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfod o Gyngor Gweinidogion Undeb Ewrop am y tro cyntaf erioed. Siaradodd fel Gweinidog dros Dreftadaeth Cymru yn rhan o ddirprwyaeth y DU i'r cyfarfod. Cyfieithwyd araith y gweinidog mewn canlyniad i gytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ac Undeb Ewrop a gytunwyd yng Ngorffennaf 2008.[9]
Remove ads
Gweler hefyd
- Partneriaeth Masnachu a Buddsoddi Trawsiwerydd
- Mercosur Cymuned Fasnachu Traws-ffiniol ar gyfer dwyrain De America
Nodiadau
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads