Gwernen ap Clyddno
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Un o Feirdd y Tywysogion oedd Gwernen ap Clyddno (fl. 12g neu'r 13g).[1]
Cefndir
Gwernen yw'r lleiaf adnabyddus o'r Gogynfeirdd. Ni wyddys dim o gwbl amdano. Does dim cyfeiriad at neb arall o'r enw yn achau'r cyfnod. Mae'r enw personol Gwernen ei hun yn anghyffredin iawn; ceir enghraifft ohono yn Llyfr Llandaf (yn y ffurf Gwerngen).[1]
Cerddi
Dim ond dri Englyn Unodl Union o waith Gwernen sydd wedi goroesi, sy'n rhan o gadwyn hirach sydd bellach ar goll. Cedwir y testun yn Llawysgrif Hendregadredd a chwech llawysgrif diweddarach. Tynged dyn yw testun y gerdd, sy'n sôn am ryfelwr dienw na ddaeth yn ôl o gyrch rhyfel.[1]
Llyfryddiaeth
- "Gwaith Gwernen ap Clyddno", gol. N. G. Costigan (Bosco), yn Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg, gol. N. G. Costigan et al., Cyfres Beirdd y Tywysogion 6 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1995)
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads