Gwersyllt
pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref o faint sylweddol a chymuned ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymru, yw Gwersyllt. Saif ychydig i'r gogledd o ddinas Wrecsam, ger y briffordd A541.
Mae gan Gwersyllt orsaf trên ar y lein Wrecsam - Bidston a thair swyddfa bost (Bradle, Gwersyllt a Brynhyfryd). Yng nghanol y pentref mae Ysgol Gyfun Bryn Alyn. Yn ôl y cyfrifiad 1991 roedd 721 siaradwyr Cymraeg yn y pentref (tri ward) sef rhyw 8% o'r boblogaeth. Mae'r ffigwr wedi codi i 1018 erbyn 2001 bron 11% o'r boblogaeth. Mae'r A541 yn hollti'r pentref ac mae ystâd diwydiannol sylweddol yn y pentref ynghyd ag archfarchnad a chanolfan siopa. Mae Gorsaf Radio "Marcher" yn y pentref a chanolfan chwaraeon Gwyn Evans ynghlwm wrth Ysgol Bryn Alyn. Ym mis Awst 2012 torrwyd y dywarchen gyntaf ar gyfer Ysgol Gymraeg Gwersyllt.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lesley Griffiths (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[1][2]
Remove ads
Hanes
Roedd nifer o byllau glo yn yr ardal yma. Yn 1896 roedd gan bwll glo Gwersyllt 185 o weithwyr, 167 ohonynt dan y ddaear. Yn yr 20g adeiladwyd llawer o dai cyngor yma. Ers yr wythdegau adeiladwyd stadau preifat ar bob ochr a llenwi'r bylchau rhwng Gwersyllt, Bradle ac mae'r pentref yn cyrraedd Pendine erbyn heddiw.
Eglwysi
Eglwys y Drindod Sanctaidd
Mae gan Eglwys Plwyf Gwersyllt, sef Eglwys y Drindod Sanctaidd, ffenestr liw o safon, a mynwent sylweddol. Crewyd Plwyf Gwersyllt yn Nhachwedd 1851, o rannau o Dreflan Gwersyllt (gynt ym mhlwyf Gresfordd) a Stansty (gynt ym mhlwyf Wrecsam). Gosodwyd y maen sylfaen ar 13 Gorffennaf 1850, a chysegrwyd Eglwys y Drindod ar 25 Gorffennaf 1851.
Ceir ar furiau'r eglwys nifer o wynebau ar ffurf cerfluniau:
Eglwys Bresbyteraidd Saesneg
Saif capel English Congregational ger yr orsaf.
Capel yr Annibynnwr
Dymchwelwyd capel Annibynnol Brynhyfryd (Summerhill) yn y 70au.
Ysgolion Gwersyllt
- Ysgol Bryn Alyn. Arwyddair: "Dim heb Ymdrech" Sefydlwyd ym 1958; bellach mae gan yr ysgol staff o 50 a thua 780 plant 11-16 oed.
- Ysgol Gynradd Gwersyllt: a sefydlwyd yn 2007 drwy uno Ysgol y Gaer a Gwersyllt County Primary Junior School.
- Ysgol Gynradd Heulfan: a agorwyd ym Medi 2005 drwy uno Ysgol Bryn Golau ac Ysgol y Drindod. Mae tua 204 o blant llawn amser, 40 yn y meithrinfa a 27 yn 'Y Canol' uned ar gyfer plant ag anableddau.
- Canolfan Cefnogaeth Gwersyllt
- Dodds Lane Student Centre - Gwersyllt
- Ysgol Gymraeg Gwersyllt. Ym mis Awst 2012 torrwyd y dywarchen gyntaf ar gyfer yr ysgol newydd sbon.
Remove ads
Dolenni allanol
- Ysgolion Archifwyd 2009-09-05 yn y Peiriant Wayback
- Ysgol Heulfan Archifwyd 2010-03-10 yn y Peiriant Wayback
- Eglwys Gwersyllt
- Eglwys Gwersyllt Archifwyd 2009-01-11 yn y Peiriant Wayback
- Ysgol Gymraeg Gwersyllt
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads