Gwyach fawr gopog

rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia

Gwyach fawr gopog
Remove ads

Mae'r Wyach fawr gopog, Podiceps cristatus, yn aelod o deulu'r Podicipedidae, y gwyachod.

Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Enw deuenwol ...
Podiceps cristatus
Thumb
Wyau Podiceps cristatus

Mae'n un o'r gwyachod mwyaf cyffredin, ac yn nythu ar draws Ewrop ac Asia yn unrhyw le lle mae llynyoedd gyda thipyn o dyfiant arnynt. Yn y rhannau oeraf mae'n symud tua'r de neu'r gorllewin yn y gaeaf, ond fel arall nid yw'n aderyn mudol. Mae'n casglu ar lynnoedd mawr neu ar rannau cysgodol o'r arfordir yn aml yn y gaeaf.

Mae tua 46–51 cm o hyd, a 59–73 cm ar draws yr adenydd. Pysgod bach yw ei fwyd fel rheol, ac mae'n medru nofio o dan y dŵr i'w dal. Oherwydd bod y coesau wedi eu gosod ymhell yn ôl ar y corff, ni all gerdded yn hawdd ar y tir.

Yn y tymor nythu, gellir gweld yr arddangosfa baru, lle mae'r ceiliog a'r iâr yn wynebu'i gilydd ac yn gwneud ystumiau gyda'u gyddfau, yn hanner codi o'r dŵr ac weithiau'n cynnig darn o blanhigyn i'w gilydd. Yn nes ymlaen, gellir gweld cyw, neu ddau gyw, yn cael eu cario ar gefn un o'r rhieni wrth iddynt nofio ar wyneb y dŵr.

Erbyn diwedd y 19g roedd yr Wyach fawr gopog wedi mynd yn aderyn prin iawn ym Mhrydain oherwydd ei bod yn cael ei hela, er mwyn defnyddio plu ei phen i addurno hetiau merched. I amddiffyn y rhywogaeth yma y sefydlwyd yr RSPB cyntaf. Gydag amddiffyniad cyfreithiol, mae niferoedd yr Wyach wedi cynyddu yn sylweddol iawn. Yng Nghymru gellir gweld yr Wyach Fawr Gopog yn nythu ar bron unrhyw lyn o faint gweddol, ac yn yr hydref neu'r gwanwyn mae dros 300 ohonynt yn heidio i Afon Menai ar adegau.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads