Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cymdeithas er gwarchod adar a'u cynefinoedd yw Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Cyfeirir ati fel rheol fel yr RSPB, o'i henw Saesneg The Royal Society for the Protection of Birds.
Ffurfiwyd y Gymdeithas yn 1889 yn Didsbury, Lloegr. Y symbyliad oedd fod niferoedd yr Wyach fawr gopog wedi disgyn i lefel beryglus o isel oherwydd hela, gan fod plu'r rhywogaeth yma yn boblogaidd iawn fel addurn i hetiau merched.
Ffurfiwyd y gwarchodfeydd cyntaf yn 1932 yn Dungeness ac East Wood, yna crëwyd yr enwocaf o'u gwarchodfeydd, Minsmere ym 1947. Ym 1948 daeth Ynys Gwales yn warchodfa, y gyntaf yng Nghymru. Yn 1967 dechreuwyd apêl am £100,000 i brynu tir ar gyfer tair gwarchodfa newydd, gan gynnwys RSPB Ynys-hir a Gwenffrwd. Symudasant i'w swyddfeydd presennol yn The Lodge, Sandy yn 1961, ac agorwyd y swyddfa Gymreig gyntaf yn 1971. Prynwyd Ynys Dewi ym 1992, a chyrhaeddwyd miliwn o aelodau yn 1997.
Remove ads
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads