Gwythïen

From Wikipedia, the free encyclopedia

Gwythïen
Remove ads

Yn system gylchredol y gwaed, gwythïen yw pibell sy'n cario gwaed i'r galon. Mae hyn yn groes i'r rhydwelïau, sy'n cario gwaed o'r galon. Ychydig iawn o ocsigen sydd yn y gwaed sy'n teithio drwyddynt o'r meinweoedd yn ôl i'r galon; mae eithriadau i hyn: mae gwythïen y bogail sy'n teithio drwy linyn y bogail yn enghraifft o wythïen sy'n llawn ocsigen.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Croesdoriad o wythïen yn dangod un o'r falfau sy'n atal y gwaed rhag rhedeg yn ei ôl.
Thumb
System gylchredol
Remove ads

Afiechydon

Mae gwythiennau chwyddiedig (neu varicose veins) i'w gweld ar y coesau, fel arfer. Oherwydd y pwysedd mawr ar wythiennau'r coesau pan fo person yn sefyll, gallant chwyddo gan beri i'r falfau beidio â gweithio'n iawn. Mae'r gwaed, yn ei dro, yn casglu yn y rhannau hyn gan chwyddo'r gwythiennau'n fwy byth. Gall gwythiennau chwyddiedig, fod yn boenus iawn a gallant gosi'n aruthrol. Y dull traddodiadol oedd eu tynnu drwy lawdriniaeth meddygol ond bellach ceir belydrau radio neu driniaeth laser.

Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads