Laser

From Wikipedia, the free encyclopedia

Laser
Remove ads

Dyfais sy'n allyrru golau (ymbelydredd electromagnetig) yw laser trwy broses o’r enw allyriant ysgogol. Mae'r gair laser yn sefyll am light amplification by stimulated emission of radiation. Crëwyd y laser gyntaf gan ffisegwyr Charles Townes ac Arthur Schawlow yn labordai Bell. Mae un o safleoedd ymchwil gwyddonol gorau Ewrop yn y maes hwn yn Llanelwy, sef Technium OpTIC.[1]

Thumb
Laser
Ffeithiau sydyn Math, Dyddiad darganfod ...
Remove ads

Prosesau o fewn laserau

Thumb
Arbrofion laserau Awyrlu yr Unol Daleithiau

Amsugniad Golau

Mae ffoton gyda'r egni digonol yn cael ei amsugno gan atom ac mae electron yr atom yn symud o'r cyflwr isaf i'r cyflwr cynhyrfol.

Thumb
Amsugniad Golau Ffoton gan Electron

Allyriant Digymell

Mae'r broses yma yn digwydd i'r gwrthdro i'r amsugniad. Mae'r electron yn disgyn ar hap o'r cyflwr uchaf cynhyrfol i'r cyflwr isaf ac mae'r cwymp yma yn creu allyriad ffoton o'r un egni. Mae cydweddau a chyfeiriadau'r allyriadau yma ar hap.

Thumb
Allyriant Digymell

Allyriad ysgogol

prif erthygl:allyriant ysgogol
Awgrymwyd y broses yma gan Albert Einstein yn 1917. Caiff yr electron sydd yn y cyflwr cynhyrfol uwch ei ysgogi i ddisgyn gan y ffoton sy'n dod mewn i'r atom. Maes electromagnetig sydd gan y ffoton sy'n achosi i'r ffoton syrthio. Bydd y ffoton newydd a ysgogir gan y ffoton gwreiddiol yn gadael yr atom yn gydwedd ac i'r un cyfeiriad a'r ffoton gwreiddiol.

Thumb
Allyriant Ysgogol- Un Ffoton mewn - dau ffoton allan, dyma sy'n creu golau cryf laser
Remove ads

Gwrthdroad Poblogaeth

Er mwyn cael y fwyaf o olau allan o'r ddyfais, rhaid cael y rhan fwyaf o'r electronau ar y lefel uwch cynhyrfol. Bydd hyn yn galluogi fwy ohonynt ddisgyn ac allyrru ffotonau. Mae yna broblem, mae'r ffotonau a gynhyrchir yn addas i'r electronau amsugno. Mae angen cael sefyllfa lle mae'r gyfradd allyriant ysgogol yn fwy na'r gyfradd amsugno gan yr electron- yna cynyddir arddwysedd y paladr laser. Wrth pwmpio electronau mae'r nifer o electronau cynhyrfol yn cynyddu a dyna yw gwrthdrawiad poblogaeth.

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Externí odkazy

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads