H. G. Wells
llenor Saesneg (1866-1946) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Nofelydd yn yr iaith Saesneg oedd Herbert George Wells (21 Medi 1866 - 13 Awst 1946). Roedd yn fwy adnabyddus o dan yr enw H. G. Wells a chaiff ei ystyried fel un o'r llenorion gwyddonias cyntaf. Yn aml, cyfeirir at Wells a Jules Verne fel "Tadau Gwyddonias".[1]

Roedd Wells yn heddychwr ac yn sosialydd blaengar, a daeth ei weithiau diweddarach yn fwyfwy gwleidyddol. Roedd ei nofelau o ganol y cyfnod yr ysgrifennai (1900-1920) yn fwy realistig; ymdrinient â bywydau'r bobl ar waelod y dosbarth canol (The History of Mr Polly) a'r 'New Woman' a'r Suffragettes (Ann Veronica). Roedd yn ysgrifennwr toreithiog mewn nifer o ffurfiau ysgrifennu gwahanol, gan gynnwys nofelau cyfoes, hanesyddol a sylwebaeth gymdeithasol.
Remove ads
Llyfryddiaeth dethol

- The Time Machine (1895)
- The Island of Doctor Moreau (1896)
- The Invisible Man (1897)
- The War of the Worlds (1898)
- Kipps (1905)
- Ann Veronica (1909)
- The History of Mr Polly (1910)
- The Passionate Friends (1913)
- Mr Britling Sees It Through (1916)
Eraill
- The War That Will End War (1914)
- An Englishman Looks at the World (1914)
- A Short History of the World (1922)
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads