Haf Llewelyn
awdures Gymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Awdures ac athrawes ymgynghorol yw Haf Llewelyn (ganwyd 17 Mehefin 1964) sydd wedi ysgrifennu llyfrau ar gyfer plant ac oedolion.[1]
Bywgraffiad
Ganwyd a magwyd Haf yng Nghwm Nantcol, Ardudwy, ond erbyn hyn mae hi'n byw yn Llanuwchllyn, ger y Bala. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanbedr ac Ysgol Uwchradd Ardudwy, Harlech [1]
Bu'n gweithio fel athrawes gynradd, yn ogystal â gweithio ar brosiectau Sgwad 'Sgwennu. Enillodd wobr Tir na n-Og y Cyngor Llyfrau am ei nofel Diffodd y Sêr am hanes Hedd Wyn. Bu'n cymryd rhan mewn nifer o dalyrnau a stompiau dros y blynyddoedd (fel aelod o dîm Talwrn Penllyn) a chyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth – Llwybrau, yn 2009. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion, Y Graig, yn 2010, a chyhoeddodd ei hail, Mab y Cychwr yn 2012.
Remove ads
Anrhydeddau
- 2013 - Gwobr Tir na n-Og am Diffodd y Sêr
Cyhoeddiadau detholedig
- O! Mae Mam yn Flin (Gwasg Gwynedd, 1991)
- Abi-Clec (Gwasg Carreg Gwalch, 2002)
- Stwffia dy ffon hoci! (Gwasg Gwynedd, 2006)
- Llwybrau (Cyhoeddiadau Barddas, 2009)
- Y Graig (Y Lolfa, 2010)
- Llond Drôr o Ddeinosoriaid (Cyhoeddiadau Barddas, 2011)
- Mab y Cychwr (Y Lolfa, 2012)
- Hei Now!, Now! (Gwasg Gomer, 2012)
- Diffodd y Sêr (Y Lolfa, 2013)
- Y Traeth (Y Lolfa, 2016)
- Pwyth (Y Lolfa, 2019)
- Gwenwyn a Gwasgod Felen (Gwasg Carreg Gwalch, 2020)
- Ga' i Fyw Adra? (Gwasg Carreg Gwalch, 2022)
- Dros y Môr a'r Mynyddoedd: Straeon Merched Dewr y Celtiaid (Gwasg Carreg Gwalch, 2023)
- Salem (Y Lolfa, 2023)
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads