Hawys Lestrange

From Wikipedia, the free encyclopedia

Hawys Lestrange
Remove ads

Uchelwraig o Gymru oedd Hawys Lestrange (bu farw Tachwedd 1310), merch John Lestrange Arglwydd Cnwcin, a fu farw tua 1269. Priododd Gruffudd ap Gwenwynwyn, Arglwydd Powys Uchaf, (bu farw 1286) rywbryd cyn 1242. Cafodd Gruffudd ganiatâd brenhinol i agweddu tir yn Ashford i Hawis ym 1242.[1] Ganwyd iddynt chwe mab ac un ferch:

  • Margaret (bu farw 11 Mai 1336) a briododd Fulk FitzWarin, Arglwydd Whittington, sir Amwything
  • Owain, priododd Joan Corbet. Etifeddodd Cyfeiliog ac Arwystli.
  • Llywelyn, priododd Sybil Turberville, gweddw Grimbald Pauncefoot, un o farchogion Edward I
  • Gruffudd Fychan, priododd berthynas I Roger Springhose o Swydd Amwythig
  • Gwilym, priododd Gwladus
  • Dafydd, clerigwr
  • Ieuan, clerigwr
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Roedd Gruffudd yn deyrngar iawn i goron Lloegr, a chafodd ei wobrwyo am ei deyrngarwch. Adroddir i Hawys dderbyn dau garw oddi wrth y brenin ym 1248, efallai am ei gwasanaeth hithau[2]. Bu'n rhaid i'r teulu ffoi pan ymosododd Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Gwynedd ar dde Powys. Trodd Gruffudd ei gefn ar y goron yn fuan wedi hyn, o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth gan y brenin, a throi i gefnogi Llywelyn ym 1263, ond erbyn 1274 roedd eto'n gadarn o blaid y brenin, gan gymeryd rhan flaenllaw yng nghynllwyn Dafydd ap Gruffydd i lofruddio ei frawd Llywelyn. Mae cyffesiad ei mab Owain i Esgob Bangor yn dangos yn glir bod Hawys wedi bod a rhan fawr yn y cynllwyn, gan iddi guddio dogfennaeth y cynllun yn ddiogel dan glo yn eu cartref. Bu'n rhaid i Gruffydd a'i deulu ddianc i Loegr wedi i Lywelyn ddarganfod cysylltiad y teulu a'r digwyddiad, gan ymsefydlu yn yr Amwythig.

Sicrhaodd Gruffudd bod agweddi ei wraig yn ddiogel. Cyhoeddodd siarter i'w wraig ym 1277, a oedd yn nodi ei rhan o drefgordd Tal-y-bont, cymydau Deuddwr a Chaereinion, a thiroedd yng Nghyfeiliog ac Arwystli.[3] Bu Hawys yn weithgar yn rheoli stadau'r teulu yn y 1270au. Cymerodd feddiant o faenor Church Stretton yn ystod absenoldeb ei brawd Hamon Lestrange yn ystod croesgad 1270. Bu ef farw, a chipiwyd y stad gan y brenin Edward I, ond dychwelwyd yr ystad iddi ym 1276.[4] Parhaodd i reoli'r stadau tan tua 1308, pan drosglwyddodd y cyfrifoldeb am y farwniaeth i'w mab Gruffudd Fychan.

Remove ads

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads