Haydn Morgan
chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Haydn Morgan (30 Gorffennaf 1936 – 24 Gorffennaf 2018) yn chwaraewr rygbi rhyngwladol o Gymru. Cynrychiolodd dîm genedlaethol Cymru 27 gwaith a thîm y Llewod ar deithiau i Seland Newydd a De Affrica.[1]
Remove ads
Cefndir
Ganwyd Morgan yn Oakdale, Caerffili yn blentyn i Harold ac Eunice Morgan. Roedd ei dad yn löwr yng nglofa'r Oakdale. Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Pontnewydd ar Wysg. Bu'n chwarae fel canolwr i dîm yr ysgol.
Gyrfa
Cyflawnodd Morgan gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol (gwasanaeth milwrol gorfodol) gyda Chatrawd y Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol. Bu'n chwarae rygbi i dîm y Byddin Prydeinig fel blaen asgellwr.
Gan ei fod yn chwarae yn ystod cyfnod pan oedd rygbi clwb a rhyngwladol i fod yn gamp cwbl amatur, ennillodd ei fywoliaeth fel gwerthwr ceir.
Wedi i'w yrfa rygbi ryngwladol ddod i ben, aeth Morgan i fyw yn Ne Affrica, lle bu'n chwarae dros clybiau'r Wanderers yn Johannesburg a Transvaal B. Yn Ne Affrica bu'n ennill ei damaid drwy werthu ceir dros gwmni Nissan cyn sefydlu ei fusnes ei hun a oedd yn cynhyrchu blociau concrit.
Remove ads
Gyrfa rygbi
Clwb
Bu Morgan yn chwarae, yn bennaf, i Glwb Rygbi Abertyleri. Mae rhai wedi awgrymu bod ei ffyddlondeb i Abertyleri wedi cael effaith ar ei yrfa ryngwladol, gan ei fod wedi aros yn driw i'r tîm yn hytrach na symud i dîm cryfach.[2]
Rhyngwladol
Chwaraeodd 27 gêm ryngwladol dros Gymru:
Teulu
Cafodd Hayden a Betty, ei wraig ddau fab.
Marwolaeth
Bu farw yn Nhrefynwy ychydig cyn ei ben-blwydd yn 82 mlwydd oed.
LLyfryddiaeth
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
- Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
