Hebraeg

iaith From Wikipedia, the free encyclopedia

Hebraeg
Remove ads

Mae Hebraeg yn iaith Semitig a siaredir gan ychydig dros 7 miliwn o bobl yn Israel a thros y byd. Iaith wreiddiol yr ysgrythurau Iddewig (Hen Destament y Beibl Cristnogol) yw Hebraeg Beiblaidd (neu Glasurol). Diflannodd Hebraeg fel iaith lafar yn yr 2g OC, ond parhaodd fel iaith ysgrifenedig ac iaith oedd yn cael ei darllen yn uchel mewn synagogau ac ysgolion Iddewig. Cafodd Hebraeg ei hadfywio fel iaith lafar yn niwedd y 19g a daeth yn iaith swyddogol gwladwriaeth fodern Israel yn yr 20g.[4] Y person a briodolir, neu gysylltir fwyaf gydag adfywiad yr iaith yw Eliezer Ben-Yehuda.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Yr wyddor Hebraeg

Er mai'r mwyaf amlwg ydyw hi, un o blith nifer o ieithoedd Iddewig yw'r Hebraeg. Ymhlith y lleill y mae Iddew-Almaeneg neu Yiddish-Daitsch, Ladino (Sbaeneg Iddewig) ac Arabeg Iddewig. Cafodd y rhain eu defnyddio gan wahanol gymunedau Iddewig tra bu Hebraeg llafar yn farw, ond crebachu fu eu hanes yn sgil yr adfywiad yn nefnydd yr Hebraeg, gan adael lleiafrifoedd bychain iawn o siaradwyr yr ieithoedd hyn, os o gwbl.

Un o wyrthiau ieithyddol yr 20g oedd adfywiad yr Hebraeg, na fu'n iaith gyntaf i neb ers canrifoedd.[5] Mae mewnfudwyr i Israel, o Ewrop, Unol Daleithiau America, yr hen Undeb Sofietaidd ac Affrica, er enghraifft yn cael eu trochi yn yr Hebraeg trwy gyrsiau Wlpan.[6] Mae llyfr gan Norman Berdichevsky, 'Modern hebrew: The Past Present and Future of a Revitalized Language' yn cyfeirio'n fyr at ddylanwad y mudiad Hebraeg ar y Gymraeg.[7]

Ysgrifennir Hebraeg yn ei gwyddor ei hun, o'r dde i'r chwith. Mae 22 llythyren yn yr wyddor, pob un yn gytsain gyda rhai yn gweithio hefyd fel llafariaid. Mae modd dynodi llafariaid drwy system o nodau, ond fel arfer dim ond mewn barddoniaeth, cyhoeddiadau i blant a dysgwyr y'u defnyddir.

Ymhlith cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r Hebraeg fodern y mae;

  • 'Atgofion Haganah' (bywgraffiad o Israel) gan Judith Maro, cyfieithwyd gan William Williams, Wytherin Gwasg y Brython, Lerpwl. 1972
  • 'Hanes Teulu fy Nhad' gan Judith Maro, cyfieithwyd gan William Williams, Wytherin Taliesin cyf 29, t36-46 . Rhagfyr 1974
  • "Cael y Llun yn Iawn". Cerdd gan Amir Or, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith. Taliesin cyf 131. Haf 2007.
  • 'Pedair Cerdd gan Iehwda Amichai', cyfieithwyd gan Richard Crowe, Barn, 312 (Ionawr 1989), t.47
  • "Does dim blodau i'r señorita". (stori fer ) gan Iotam Rewfeni, y cyfieithu gan Richard Crowe ac Amnon Shapiro. Tu Chwith, cyfrol 2. Haf 1994
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads