Helmand

From Wikipedia, the free encyclopedia

Helmand
Remove ads

Talaith yn ne-orllewin Affganistan yw Helmand. Mae'n ffinio â thalaith Kandahar i'r dwyrain, Chakhansur i'r gorllewin a Baluchistan (rhan o Bacistan) yn y de. Lashkar Gar yw'r brif ddinas. Mae gan y dalaith boblogaeth o 1,011,600 ac arwynebedd tir o 23,058 milltir sgwar. Pashtuniaid yw'r mwyafrid yno ond ceir lleiafrif sylweddol o Balochiaid hefyd, yn y de. Ers 2001 mae milwyr NATO a'r Unol Daleithiau wedi bod yn ymladd y Taleban a grwpiau eraill yno.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...

Rhed Afon Helmand drwy'r dalaith. Yn y de ceir bryniau Chagai sy'n codi i 2462m ar y ffin â Pacistan. Yn y gogledd ceir bryniau uchel a chopaon cyntaf yr Hindu Kush. Gwastatir uchel a sych yw'r rhan fwyaf o'r dalaith, sy'n gorwedd rhwng y bryniau hyn.

Rhagor o wybodaeth Taleithiau Affganistan ...
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads