Hengwrt
plasty ger Dolgellau ym Meirionnydd, de Gwynedd. From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Plasty ger Dolgellau ym Meirionnydd, de Gwynedd, yw Hengwrt. Fe'i lleolwyd i'r gogledd-orllewin o Ddolgellau ger Abaty Cymer, ger cymer Afon Mawddach ac Afon Wnion.
Mae'n enwog yn hanes llenyddiaeth Gymraeg fel cartref i un o'r casgliadau pwysicaf o lawysgrifau Cymreig. Daeth y llawysgrifau hyn i feddiant y casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd Robert Vaughan (?1592-1667) o'r Hengwrt yn ystod yr 17g. Roeddent yn cynnwys trysorau fel Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin a Llyfr Aneirin, ynghyd â thestunau o Brut y Tywysogion a llyfrau cyfraith. Roedd y casgliad yn cynnwys copi cynnar pwysig o waith Chaucer hefyd, a adnabyddir fel yr "Hengwrt Chaucer" neu, yn gamarweiniol, yr "Hengwrt Manuscript".

Arhosodd y llawysgrifau hyn yn ddiogel yn llyfrgell enwog Hengwrt am tua 300 mlynedd. Gwelodd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd y llyfrau yno yn 1696. Bu nifer o hynafiaethwyr y 18g a dechrau'r 19g yn ymweld â'r plasty i gael gweld a chopïo'r llawysgrifau, yn cynnwys Ieuan Fardd, William Owen Pughe ac Iolo Morganwg. Etifeddwyd y llyfrgell gan William Watkin Edward Wynne o blas Peniarth yn 1859 ac ar ôl i Syr John Williams ei phrynu cafodd casgliad Peniarth, yn cynnwys y Llyfr Du, ei roi i'r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth.
Enwir ystafell arddangos Hengwrt, sy’n arddangos llawysgrifau prin y Llyfrgell Genedlaethol, ar ôl Hengwrt.
Mae'r Hengwrt yn cael ei grybwyll yn y nofel Y Stafell Ddirgel, gan Marion Eames.
Remove ads
Dolenni allanol
- Yr "Hengwrt Chaucer" ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

