Dolgellau
tref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref farchnad a chymuned yng Ngwynedd, yw Dolgellau. Saif yn ne'r sir, ger mynydd Cader Idris. Mae afon Wnion, un o lednentydd Afon Mawddach, yn llifo trwy’r dref gan basio dan Y Bont Fawr.
Mae Caerdydd 148.3 km i ffwrdd o Ddolgellau ac mae Llundain yn 292.5 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 56 km i ffwrdd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Remove ads
Hanes ac economi

Cyn y cyfnod Rhufeinig yr oedd yr ardal y mae Dolgellau yn sefyll ynddi yn rhan o diroedd yr Ordoficiaid, sef un o lwythau Celtaidd Cymru a orchfygwyd gan y Rhufeinwyr yn OC 77/78. Er y darganfuwyd ychydig o darnau arian o gyfnodau yr ymherodwyr Hadrian a Trajan ger Dolgellau, mae’r ardal yn gorsog ac nid oes tystiolaeth iddi gael ei chyfanheddu yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Serch hynny, saif tair o fryngaerau ger Dolgellau, er na wyddys yn sicr pwy a'u adeiladodd.
Wedi i’r Rhufeiniaid adael, daeth yr ardal dan rheolaeth cyfres o benaethiaid Cymreig, ond mae’n debyg na fodolodd trigfa sefydledig yno tan ddiwedd y 11eg neu ddechrau’r 12g, pan y’i sefydlwyd yn faerdref, o bosibl gan Gadwgan ap Bleddyn. Tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol oedd maerdref, ac ni newidiwyd y statws hwn ar Ddolgellau tan deyrnasiad Harri VII (1485-1509).

Adeiladwyd eglwys rywbryd yn y 12g (fe’i chwalwyd a disodli gan yr adeilad presennol ym 1716), er mai Abaty Cymer, a sefydlwyd ym 1198 yn Llanelltyd, oedd y ganolfan grefyddol bwysicaf yn wreiddiol. Dechreuodd pwysigrwydd Dolgellau dyfu yn y cyfnod hwn ac fe’i chrybwyllwyd ym Mesuriad Tir Meirionnydd, a archebwyd gan Edward I (ni chrybwyllwyd Llanelltyd). Ym 1404 cynhaliwyd cyngor penaethiaid yno gan Owain Glyndŵr; saif Senedd-dy Owain Glyndŵr ar hen safle'r senedd wreiddiol.
Wrth i George Fox ymweld a’r dref ym 1657, daeth llawer o drigolion Dolgellau i fod yn Grynwyr. Oherwydd erledigaeth ymfudodd llawer ohonynt i Bennsylfania ym 1686, dan arweiniant Rowland Ellis, ffermwr bonheddig lleol. Enwyd tref Bennsylfaenig Bryn Mawr ar ôl fferm Ellis, ger Dolgellau.
Datblygodd y diwydiant gwlân yn Nolgellau i fod o’r pwysigrwydd eithaf i’r economi lleol; erbyn diwedd y 18g cyfrifwyd bod gwerth blynyddol £50,000 i £100,000 ar allgynnyrch gwlân Dolgellau. Serch hynny, dechreuodd y diwydiant ddirywio yn hanner cyntaf y 19g oherwydd dyfodiad y gwŷdd mecanyddol a diwedd y gaethfasnach. Allforio gwlân Cymreig i wisgo caethweision ym mhlanhigfeydd America oedd un o brif farchnadoedd y diwydiant[3]. Cyfrannydd arall i economi Dolgellau, er yr un cyfnod, oedd barcio; parhaodd hyn tan y 1980au, er ar radd llawer iawn llai.
Pan ddarganfuwyd aur yn ardal Dolgellau yn y 19g, brysiodd llwyth o ymchwilwyr yno. Ar un pryd cyflogwyd mwy na 500 o weithwyr yn y pyllau aur lleol. Pery hyn ar radd llawer iawn llai hyd heddiw ym mhyllau aur Gwynfynydd, un o ffynonellau prin aur Cymru.
Heddiw mae economi Dolgellau yn dibynnu'n bennaf ar dwristiaeth (gweler isod, er bod amaethyddiaeth yn chwarae rhan o hyd; cynhelir marchnad ffermwyr yng nghanol y dref bob mis.
Remove ads
Yr enw "Dolgellau"

Ni wyddys dim yn sicr am darddiad enw 'Dolgellau'. Mae’n debyg y tardd o'r geiriau “dol” a “gelli”, er yr awgrymwyd deilliannau megis “dol cellïau” neu “dol cellau [mynachod]” hefyd; oherwydd hanes yr enw, fodd bynnag, nid yw rhain mor debygol.
Ceir yr enghreifftiau cynharaf o enw'r dref mewn cofnodion gwladol Seisnig ac felly maent yn llurguniadau o'r Gymraeg. "Dolkelew" yw’r sillafiad cynharaf a wyddys amdano (1253, Mesuriad Tir Meirionnydd[4], ond gwelir y sillafiad "Dolgethley" ym 1285 (mae’r thl yn sicr yn gais i gynrychioli’r sain Gymraeg ll). Mewn dogfen a luniwyd ar gyfer Owain Glyndŵr, ceir y ffurf "Dolguelli". Wedi hynny tan y 19g, gwelir sillafiadau megis "Dolgelley", "Dolgelly" neu "Dolgelli". Defnyddiodd Thomas Pennant y ffurf "Dolgelleu" yn ei lyfr Tours of Wales, a dyna’r ffurf a ddefnyddiwyd yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1723, ond nid oedd y ffurf hon fyth yn gyfredol iawn. Yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1825 defnyddir y ffurf "Dolgellau", a mabwysiadodd Robert Vaughan o'r Hengwrt y ffurf hon ym 1836; mae’n bosibl fod y ffurf yn seiliedig ar y rhagdybiaeth mai "Dol Cellau" yw tarddiad yr enw. Hwn yw'r sillafiad safonol heddiw yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd, ond fe'i dderbyniwyd yn gynharaf yn y naill iaith na'r llall: "Dolgellau" a ysgrifennodd Islwyn Ffowc Elis ym 1949 yng Nghysgod y Cryman, ond parhaodd y sillafiad "Dolgelley" ar arwyddion ffordd tan 1958 pan mabwysiadodd y cyngor lleol y sillafiad "Dolgellau" fel enw safonol y dref.
Remove ads
Cysylltiadau llenyddol
Yn Nolgellau roedd yr awdur Cymraeg Marion Eames yn byw, a ysgrifennodd y nofel Y Stafell Ddirgel sy'n seiliedig ar hanes y Crynwyr a ymfudodd o Ddolgellau i'r Amerig ym 1686.
Cadwodd Robert Vaughan (1592-1667) lyfrgell helaeth yn yr Hengwrt, ger Dolgellau, yn cynnwys trysorau fel Llyfr Taliesin, Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch. Adnabyddir ei gasgliad wrth yr enw Llawysgrifau Hengwrt.
Bu sawl bardd a llenor o bwys yn byw yn yr ardal, gan gynnwys Dafydd Ionawr, O. M. Lloyd, Bethan Gwanas, Morus Cyfanedd ac Ioan Bowen Rees.
Yn y byd cerddorol bu Dolgellau yn gartref i ddiwylliant gwerin Cymru. Roedd gwyl werin yno yn y 1950au a ddilynwyd yn y 70au a'r 80au gan yr Wyl Werin Geltaidd, Dilynwyd honno gan y Sesiwn Fawr yn 1990au hyd heddiw, fel a welir isod. Ond hefyd daeth cerddoriaeth werin o'r dref gyda Cilmeri (grwp), Côr Gwerin y Gader, Defaid a Gwerinos dros gyfnod o ugain mlynedd o'r 1980au ymlaen. Bu sesiynau gwerin mewn tafarndai yn rhan naturiol o fywyd y dref hefyd drwy'r cyfnod hwn gyda sefydlu Tŷ Siamas yn benllanw.
Atyniadau lleol

Atynna ardal Dolgellau filoedd o dwristiaid bob blwyddyn oherwydd harddwch naturiol yr ardal. Daw rhan helaeth ohonynt er mwyn cerdded, heicio, beicio mynydd, marchogi, rafftio a dringo, yn enwedig ar lethrau Cader Idris.
Mae anturiaethau awyr agored yn boblogaidd yn yr ardal ac yn denu twristiaid. Lleolir Coedwig Dyfi i'r de o'r dref sy'n cynnwys sawl llwybr cerdded a llwybr beicio mynydd.
Agorwyd gorsaf trên Dolgellau – yn rhan o’r Great Western Railway - ym 1868. Caewyd y rheilffordd yn y 1960au gan Dr Beeching. Heddiw rhed "Llwybr Mawddach", sef llwybr i gerddwyr a beicwyr, ar hyd yr hen reilffordd.
Mae atyniadau hanesyddol yn cynnwys gweddillion Abaty Cymer, tua hanner milltir o'r dref. Mae hefyd fynwent Crynwyr yn y dref. Yn Ninas Mawddwy, sef pentref ger Dolgellau, mae cae o’r enw Camlan a gysylltir gan rai â'r Brenin Arthur (gweler Camlan).
Remove ads
Digwyddiadau diwylliannol

Er 1992 cynhelir gŵyl cerddoriaeth byd "Sesiwn Fawr" yn Nolgellau. Fe’i chynhaliwyd yn wreiddiol ar strydoedd y dref, ond tyfodd yn rhy fawr i ganol Dolgellau. Er 2002 cymer le ar gyrion Dolgellau a chodir tâl am fynediad. Defnyddiwyd yr arian i atynnu perfformwyr megis Cerys Matthews, Steve Earle, Mike Peters, a Super Furry Animals. Daw torfeydd o dros 5,000 o bobl i Sesiwn Fawr yn flynyddol ac honnir bod yr ŵyl yn un o brif wyliau cerddoriaeth byd Ewrop. Er 1995 darlledir yr ŵyl ar BBC Radio Cymru ac er 1997 ar S4C.
Bob haf cynhelir hefyd Ŵyl Cefn Gwlad yn Nolgellau, sef cymysg o Sioe Amaethyddol a ffair. Mae mynediad am ddim ond rhoddir yr arian a godir yn y gwahanol stondinau i achosion elusengar.
Ym 1949 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau ac yn fwy ddiweddar ym 1994 Eisteddfod yr Urdd.
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Remove ads
Pobl o Ddolgellau
- Idris ap Gwyddno, brenin Teyrnas Meirionnydd (bu farw tua 636). Y dyn go iawn tu ôl i chwedl Idris Gawr, o bosib.
- Y Barwn Lewys ab Owain (bu f 1555) Is-Siamberlen Gogledd Cymru, Barwn y Dysorlys ac erlidiwr Gwylliaid Cochion Mawddwy
- John Elis (1598–1665). Rheithor Dolgellau a noddwr Ysgol Ramadeg y dref
- Rowland Ellis (1650–1731) Crynwr ac un o sylfaenwyr parth Gymreig Pennsylvania
- Henry Owen (1716–1795) , clerigwr, meddyg, ac ysgolhaig
- David Elis (1736–1795), ysgolhaig
- Dafydd Ionawr (1751–1827) Bardd
- Hugh Reveley (1772–1851) tirfeddiannwr ystâd Bryn y Gwin
- Parch Hugh Pugh, Brithdir, (1779–1809) Gweinidog cyntaf Annibynwyr Dolgellau
- Parch Cadwaladr Jones, Yr Hen Olygydd, Ail weinidog Annibynwyr, Dolgellau a golygydd Y Dysgedydd
- Thomas Richards (1800–1877) Meddyg, newyddiadurwr a llenor yn Hobart, Tasmania
- John Jones (Idrisyn) (1804-1877) Argraffydd ac awdur
- Parch Roger Edwards (1811–1886) awdur
- Eliezer Pugh (1814–1903), dyngarwr
- Robert Oliver Rees, (1818–1881) fferyllydd, llyfrwerthwr, cyhoeddwr a llenor Cymreig.
- Parch Evan Jones (Ieuan Gwynedd) (1820–1854) Bardd, awdur ysgrifau a newyddiadurwr
- Parch Robert Owen (1820-1902) Offeiriad, ac awdur Uchel Eglwysig
- Thomas Jones (Gogrynwr) (1822–1854), Cerddor a meddyg
- John Jones (Idris Fychan) (1825–1887), telynor a llenor, cyfaill i Geiriog
- Y Gwir Barchedig John Pryce (1828-1903) Offeiriad Anglicanaidd ac awdur; deon Bangor.
- Edward Jones (1834–1900)- meddyg ac arweinydd llywodraeth leol [8]
- William Edwards Davies (1851-1927) hanesydd ac eisteddfodwr
- Evan William Evans (1860-1925) cyhoeddwr ac argraffydd
- Peter Price (1864-1940), gweinidog yr Annibynwyr
- Owen John Owen ('John Owen y Fenni'; 1867-1960), argraffydd a chyhoeddwr, arweinydd corawl ac arweinydd eisteddfodol[9]
- Henry Lloyd (ap Hefin) (1870–1946) awdur yr emyn I bob un sydd ffyddlon
- Syr Cadwaladr Bryner Jones (1872-1954) athro amaethyddiaeth[10]
- Thomas Peter Ellis (1873 - 1936) barnwr yn yr India awdur The Story of Two Parishes (Dolgelley and Llanelltyd)[11]
- Parch O. M. Lloyd (1910–1980) Bardd a gweinidog capel y Tabernacl 1955-1978
- Dilys Elwyn Edwards (1918-2012) cyfansoddwraig
- Ioan Bowen Rees (1929–1999) Prifweithredwr cyntaf Cyngor Sir Gwynedd
- Beryl Williams (1937–2004) actor
- John Elwyn Jones (1921–2008) awdur Pum Cynnig I Gymro
- Bethan Gwanas (g. 1962), awdur
- Iwan "Iwcs" Roberts (g. 1967), actor, canwr a thelynegwr
- Martin Phillips Chwaraewr Dartiau
Remove ads
Gefeilldref
Gefeilliwyd Dolgellau â Gwenrann yn Llydaw (Gwenrann yw'r enw Llydaweg: Guérande yw'r enw Ffrangeg).
Oriel
- Pont dros Afon Wnion yn Nolgellau, 1830 gan yr artist Henry G Gastineau, 1791-1876 a'r ysgythrwr Samuel Lacey, 1818-1857
- 'Dolgelle' 1806 gan William Marshall Craig, bl. 1788-1828
- Dynes yn bwydo'r ieir o flaen tŷ fferm mawr yn Nolgellau, 1815 gan Cornelius Varley, 1781-1873 a'r ysgythrwr Francis Stevens
- 'Dolgelley and Cader Idris' tua 1840 gan George Pickering, tua 1794-1857 a'r maenargraffydd George Hawkins, 1819-1852
- 'Dolgelly, north Wales' 1835?
- Odyn y Pandy (Erasmus Walter Ellis tua 1890. Casgliad LlGC)
- Odyn y Pandy (William Henry Mander 1880au. Casgliad LlGC)
- Dolgelley in 1837 gan William Hughes. (Casgliad LlGC)
- Darllenfa Rydd Dolgellau (2023)
- Sesiwn Fawr Dolgellau (2022)
- Gŵyl Werin Geltaidd 1958
- Eisteddfod Genedlaethol 1948
- Eisteddfod yr Urdd 1960
- Clychau'r Eglwys, wedi eu tynu o'r tŵr er mwyn eu hatgyweirio (1963)
Llyfrau hanes lleol
- Dolgellau. 4, Tai Tafarnau a Gwestai = Inns,Taverns & Hotels, Tomos, Merfyn Wyn; Nereus, 2023., ISBN: 9780995655669
- Tydi'r sgwâr ddim digon mawr: hynt a helynt y Sesiwn Fawr 1992-2022; Myfyr, Ywain, Gwasg Carreg Gwalch, 2022, ISBN: 9781845278687
- Dolgellau. 3, Diwydiant a Masnach = Industry & Commerce, Tomos, Merfyn Wyn; Nereus, 2018., ISBN: 9780995655638
- Dolgellau a'r Rhyfel Mawr, Sheppard, Dafydd. T., 2014. Bywgraffiadau y rhai a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf
- Dolgellau and The Great War, Sheppard, Dafydd. T., 2014. (Fersiwn Saesneg o'r uchod)
- Dolgellau 2: Tomos, Merfyn Wyn. (Hen luniau) Gwasanaeth Archifau Gwynedd, 2013, ISBN: 9780956322968,
- Dolgellau Tomos, Merfyn Wyn. (Hen luniau) : Nereus 2011, ISBN: 9780956322920
- Dolgellau names and stories : searching for the lives behind the names : rectors of Dolgellau from medieval times.; 2010, Cyhoeddiad gan yr awdur
- Dolgellau, Gwasanaeth Archifau Gwynedd, 1976 (Hen luniau o'r archifdy)
- The story of two parishes: Dolgelley and Llanelltyd. Ellis, Thomas Peter: Trallwng: Welsh Outlook Press, 1928.[12]
- Diwrnod yn Nolgellau; Williams, Robert Thomas, (Trebor Môn). Caernarfon : W. Gwenlyn Evans, 1904.[13]
- Hanes Dolgellau a'r cymydogaethau, yngyda hynafiaethau gorllewin Meirionydd, John Jones (Idris Fychan). Treffynnon : P. M. Evans, 1872.
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads