Honoré de Balzac
nofelydd a dramodydd Ffrengig (1799-1850) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Llenor o Ffrainc oedd Honoré de Balzac (20 Mai 1799 – 18 Awst 1850) a arbenigai yn y ddrama a'r nofel. Ei ' fagnwm opws' oedd nofel-ddilyniant o storiau byrion a nofelau a gasglwyd ynghyd dan y teitl La Comédie humaine, sy'n cynnig panorama o fywyd Ffrengig yn dilyn marw Napoleon Bonaparte yn 1815.
Roedd Balzac yn hoff o'r manylyn lleiaf a disgrifiadau cignoeth o gymdeithas, gelwir ef yn un o bobl blaenllaw'r mudiad 'Realaeth' o fewn llenyddiaeth Ewropeaidd. Mae sawl ochr i'w gymeriadau, haenau o gymhlethdodau - sy'n aml yn bobl ag iddynt foesau amwys, anghonfensiynol. Dylanwadodd ar lawer, gan gynnwys y nofelwyr: Marcel Proust, Émile Zola, Charles Dickens, Anthony Trollope, Edgar Allan Poe, Eça de Queirós, Fyodor Dostoyevsky, Oscar Wilde, Gustave Flaubert, Benito Pérez Galdós, Marie Corelli, Henry James, William Faulkner, Jack Kerouac, a Italo Calvino, a'r athronwyr Friedrich Engels a Karl Marx. Trowyd llawer o'i waith yn ffilmiau ac fe'i cyfieithwyd i nifer o ieithoedd.
Remove ads
Llyfryddiaeth ddethol
Nofelau
- La Peau de chagrin (1831)
- Eugénie Grandet (1833)
- Le Père Goriot (1835)
- Les Illusions perdues (I, 1837; II, 1839; III, 1843)
- La Cousine Bette (1846)
- Splendeurs et misères des courtisanes (1847)
Dramâu
- Cromwell (1820)
- Ressources de Quinola (1842)
- Paméla Giraud (1843)
- La Marâtre (1848)
- Mercadet ou le Faiseur (1848)
Dolenni allanol
- Testun Ffrangeg Le Père Goriot Archifwyd 2005-12-19 yn y Peiriant Wayback
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads