Hopi

From Wikipedia, the free encyclopedia

Hopi
Remove ads

Grŵp ethnig o drigolion brodorol America, yn byw yn bennaf yn ne-orllewin yr Unol Daleithiau yw'r Hopi. Credir bod tua 10,000 ohonynt i gyd, y mwyafrif yn byw ar diroedd cadw yr Hopi yn Arizona. Amgylchynir eu tiroedd yma gan diroedd cadw y Navajo.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Gwraig Hopi yn trin gwallt merch ddibriod

Er eu bod yn debyg i'r Zuñi o ran diwylliant, mae Hopieg yn iaith uto-astecaidd. Maent wedi cadw mwy o'u diwylliant na mwyafrif pobloedd brodorol Gogledd America, ac maent yn adnabyddus am ei celfyddyd. Maent yn cynnal canolfan ddiwylliannol, amgueddfa a gwestai.

Yn ôl mytholeg yr Hopi, daeth bodau o'r sêr i ymweld a'u hynafiaid, Roedd gan y bodau hyn, a elwir yn "katchinas", wybodaeth am ddulliau o symud meini enfawr ac adeiladu twneli. Un diwrnod, dychwelodd y "katchinas" i'r sêr, ond disgwylir iddynt ddychwelyd ar ddiwedd y byd presennol.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads