Arizona

talaith yn Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia

Arizona
Remove ads

Mae Arizona yn dalaith yn ne-orllewin yr Unol Daleithiau, sy'n ymrannu'n naturiol yn ddwy ran; yn y gogledd-ddwyrain mae'n rhan o Lwyfandir Colorado ac yn y de a'r gorllewin mae'n ardal o ddyffrynoedd a thiroedd sych. Mae Afon Salt ac Afon Gila yn rhedeg trwy' de'r dalaith. Yn y gogledd-orllewin mae Afon Colorado yn llifo trwy'r Grand Canyon. Ei arwynebedd tir yw 295,023 km².

Thumb
Lleoliad Arizona yn yr Unol Daleithiau
Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Yn ogystal â’r Grand Canyon, mae gan y dalaith atyniadau eraill i dwristiaid, megis yr Argae Hoover, yr Anialwch Peintiedig, Y Fforest Betraidd, Canyon de Chelly, Llyn Havasu, Llyn Mead a Monument Valley.[1]

Mae gan y dalaith y boblogaeth frodorol uchaf yn UDA ac yn gartref i'r Navajo, yr Hopi a'r Apache. Roedd Arizona yn rhan o New Mexico tan iddi gael ei ildio i'r Unol Daleithiau yn 1848. Roedd yn lleoliad i nifer o ryfeloedd yn erbyn y pobloedd brodorol, yn arbennig yr Apache, o'r 1850au hyd 1877. Ni ddaeth yn dalaith tan mor ddiweddar â 1912. Phoenix yw'r brifddinas.

Remove ads

Gweler hefyd

Dinasoedd Arizona

1Phoenix1,445,632
2Tucson520,116
3Mesa439,041
4Chandler236,123
5Glendale226,721
6Scottsdale217,385
7Tempe161,719

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads