Howel Harris

diwygiwr crefyddol From Wikipedia, the free encyclopedia

Howel Harris
Remove ads

Un o arloeswyr y Diwygiad Methodistaidd oedd Howel Harris (23 Ionawr 171421 Gorffennaf 1773). Roedd yn frodor o Drefeca ym Mrycheiniog (Powys erbyn heddiw).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Bywgraffiad

Bu yn Academi Llwyn-lwyd tan ei fod yn 17 oed. Bu wedyn yn ysgolfeistr ar ysgolion Llangors, Llangasty a Talgarth.

Thumb
Llythyr yn llawysgrifen Howel Harris

Yn y cyfnod rhwng Sul y Blodau 1735, pan fu'n gwrando ar bregeth Ficer Talgarth, a'r Sulgwyn cafodd droedigaeth. Fe fu yn gyfrifol am gychwyn y Seiat oedd mor bwysig i'r Methodistiaid. Roedd y rhai a oedd dan ddylanwad Howel yn dod at ei gilydd i astudio'r Beibl ac i drafod y ffordd Gristnogol o fyw. Yn 1737 cyfarfu am y tro cyntaf â Daniel Rowland, Llangeitho.

Ei freuddwyd ef oedd sefydlu Teulu Trefeca. Gwahoddodd nifer o bobl i ddod i fyw i Drefeca. Roedd rhai yn gweithio ar y tir neu wrth eu crefft megis gwneud basgedi, gwaith lledr, tyrnio, rhwymo llyfrau, argraffu a nyddu. Roedd pawb yn dod at ei gilydd dair gwaith y dydd i gydaddoli.

Er na bu i freuddwyd 'Teulu Trefeca' wireddu'n llawn, fe sefydlwyd Coleg Trefeca ar safle i gartref gan ddod yn ganolfan ddiwinyddol bwysig i Fethodistiaeth Cymru a'r Eglwys Bresbyteraidd Cymru hyd at ddechrau'r 20g. Mae'r adeiladau bellach yn ganolfan grefyddol a chynhadledd. Mae wedi ei gladdu wrth yr allor yn Eglwys Talgarth, yn yr hen Sir Frycheiniog.

Thumb
Hywel Harris and others "Sasiwn gyntaf", paentiad olew (1912) gan Hugh Williams. Mae gan y darlun label: "Y Sasiwn Gyntaf Watford ger Caerffili: Ionawr 1743. O'r chwith John Cennick, Joseph Humphreys, John Powell, William Williams Pantycelyn, George Whitefield, Daniel Rowland, Howel Harris"
Remove ads

Mewn Llenyddiaeth Gymraeg

Cyfansoddodd Cynan y ddrama Hywel Harris yn seiliedig ar ffeithiau hanesyddol am fywyd Harris, a'i berthynas gyda Madam Gruffydd, ym 1931. Cyhoeddwyd y ddrama ym 1932 gan Hughes a'i Fab.

Aeth Islwyn Ffowc Elis ati i lunio drama o'r enw Harris gafodd ei llwyfannu gan Gwmni Theatr Cymru.

Llyfryddiaeth

  • M.H. Jones (gol.), The Trevecka Letters (1932)
  • Geoffrey F. Nuttal, Howell Harris (1963)
  • Gomer M. Roberts, Portread o Ddiwigiwr (1969)
  • idem (gol.), Selected Trevecka Letters 1742-47 (1956)
  • Geraint Tudur, 'Papurau Howell Harris', yn Cof Cenedl XVI, Gwasg Gomer, 2001.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads