Talgarth
tref yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Talgarth.[1] Saif yn ardal Brycheiniog. Yma y cadwyd Llyfr Coch Talgarth, llawysgrif Gymraeg a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1400.
Mae Caerdydd 57 km i ffwrdd o Talgarth ac mae Llundain yn 222.1 km. Y ddinas agosaf ydy Henffordd sy'n 36.6 km i ffwrdd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]
Remove ads
Adeiladau a chofadeiladau
- Eglwys Sant Gwenllïan
- Gwesty'r Tŵr (1873)
- Melin Talgarth
- Neuadd y Dref
- Penywyrlod (siambr gladdu)
Siambrau claddu
O fewn ardal tua dwy filltir sgwâr ceir 16 siambr claddu o Oes Ganol y Cerrig (y mesolythig) a ystyrir yn nodedig iawn. Siambrau hirion yw'r rhan fwyaf, gyda cherrig anferthol yn eu gorchuddio fel nenfydau; mae eu cynlluniau mewnol yn hynod o gymhleth ac yn arwydd fod yma bobl soffistigedig iawn, amaethwyr cynnar gyda defodau claddu arbennig. Canfuwyd yr offeryn cerdd hynaf yng Nghymru ym Mhenywyrlod, Talgarth a ddyddiwyd i c. 4000 BC; darganfuwyd y siambr gan ffermwr lleol a'r offeryn cerdd ym Mehefin 1972 .
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Pobl nodedig
- Llewela Davies, pianydd a chyfansoddwraig
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

