Hunlun

From Wikipedia, the free encyclopedia

Hunlun
Remove ads

Mae hunlun (hefyd hun-lun a selffi; Saesneg: selfie) yn ffotograff hunanbortread, fel arfer yn cael ei dynnu ar ffôn symudol. Yn aml iawn mae hunluniau yn cael eu rhannu ar rwydweithiau cymdeithasol ar-lein fel Instagram, Facebook, a Tumblr. Maent yn anffurfiol ac yn aml yn cael eu tynnu gyda'r camera yn cael ei ddal hyd braich.

Thumb
Hunlun o macaque oedd wedi codi'r camera ac wedi tynnu ffoto ohono'i hun.
Thumb
Yr hunlun cyntaf, mae'n debyg; fe'i gymerwyd gan Robert Cornelius yn 1839.
Thumb
Hunlun gan y ffotonewyddiadurwr Geoff Charles (1945).
Remove ads

Hanes

Creodd yr arloeswr ffotograffig Americaniad Robert Cornelius lun daguerreotype ohono'i hun ym 1839 sef un o'r ffotograffau cyntaf o berson. Oherwydd fod y broses mor araf, roedd yn gallu tynnu’r cap oddi ar y lens, rhedeg o flaen y camera am funud neu fwy, cyn dychwelyd i roi'r cap y lens yn ôl. Ysgrifennodd ar gefn y llun The first light picture ever taken. 1839.[1][2]

Ym 1900 dechreuodd gwmni Kodak werthu'r camera bocs ysgafn cyntaf y 'Kodak Brownie', ac fe ddaeth yr arferiad o dynnu hunan bortreadau'n boblogaidd. Fel arfer rhoddwyd y camera o flaen drych.[3]

Mae'r syniad o lwytho lluniau hunanbortread o grwpiau i'r we, gan ddefnyddio camera ffilm dafladwy yn hytrach na chamera digidol neu ffôn symudol, yn dyddio yn ôl i 2001 pan grëwyd gwefan gan grŵp o bobl yn Awstralia.[4][5][6]

Remove ads

Yr enw Selfie / Hunlun

Mae'r defnydd cynharach o'r gair selfie yn cael ei olrhain yn ôl i 2002. Ymddangosodd yn gyntaf ar wefan Awstraliaid (ABC Online) ar 13 Medi 2002.[7]

Erbyn 2013, roedd y gair "selfie" wedi dod yn ddigon poblogiadd i'w gynnwys yn y fersiwn ddigidol o'r Oxford English Dictionary.[8]

Roedd y gair Cymraeg "hunlun" (neu "hun-lun") wedi ymddangos erbyn 2013[9] ymlaen.[10]

Troedlun

Yn 2015 dechreuwyd gwerthu esgidiau pwrpasol gyda lle arbennig ar gyfer y ffôn. [11]

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads