Ieuan ap Hywel Swrdwal

bardd From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Ieuan ap Hywel Swrdwal (bl. tua 1436 - 1470), a ystyrir y bardd Cymraeg cyntaf i gyfansoddi yn Saesneg ac felly y bardd "Eingl-Gymraeg" cyntaf, yn ôl rhai.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Bywgraffiad

Yn frodor o ardal Brycheiniog ym Mhowys, roedd yn hanu o deulu o dras Eingl-Normanaidd ac yn fab i'r bardd Hywel Swrdwal. Roedd ei frawd Dafydd yn fardd ar y mesurau caeth hefyd.[1]

Bu Ieuan am gyfnod yn feili yn Y Drenewydd ac roedd ganddo gysylltiad cryf â Rhydychen. I noddwyr y beirdd yn y Canolbarth y canodd Hywel amlaf ac mae ganddo gerdd arbennig i fugeildy neu blasty Bryndraenog, ger Trefyclawdd nid nepell o Glun.[2]

Remove ads

Cerddi

Roedd Ieuan yn adnabod y bardd Llawdden a chedwir ar glawr ymryson barddol rhyngddynt.[3]

Cyfansoddodd awdl yn yr iaith Saesneg i'r Forwyn Fair, a hynny mewn orgraff Gymraeg. Dywedai rhai o'i gyfoeswyr iddo'i chyfansoddi i gau ceg y Saeson hynny yn Rhydychen a ensyniodd "nad oedd yr un ysgolhaig da yn hannu o Gymru".[2] Dyma englyn o'r awdl:

O mighti ladi, owr leding – tw haf
At hefn owr abeiding:
Yntw ddy ffast eferlasting
I set a braents ws tw bring.[2]

Honnir gan rai mai dyma'r enghraifft gyntaf o farddoniaeth Eingl-Gymreig Cymru.

Remove ads

Llyfryddiaeth

  • Gwaith Hywel Swrdwal a'i Deulu, gol. Dylan Foster Evans (Aberystwyth, 2000), Adran 2: "Gwaith Ieuan ap Hywel Swrdwal"

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads