Isometreg

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Mewn mathemateg, mae isometreg yn drawsffurfiad lle cedwir yr hyd (neu'r pellter) rhwng y gofod metrig heb ei newid.[1] Mewn geiriau eraill, mae isometreg yn drawsffurfiad sy'n mapio elfennau o un gofod metrig i un arall, gan barchu hyd y gofod a geir rhwng yr elfennau, yn union. Mewn gofod Euclidaidd 2 a 3 dimensiwn, os yw dau ffigur (neu ddau siâp) yn perthyn i'w gilydd drwy isometreg, yna dywedir eu bod "yn gyfath". Mae'r berthynas hon, sy'n eu cysylltu, naill ai'n symudiad anhyblyg, neu'n adlewyrchiad.[2]

Mae'r gair Groegaidd isos yn golygu "hafal", sy'n cyfeirio at y pellter rhwng yr elfennau.

Remove ads

Diffiniad

Gadewch i X a Y fod yn ofod metrig, gyda metrics dX a dY. Gelwir map f : XY yn isometrig os ceir (ar gyfer a,bX)

[3]
Remove ads

Enghreifftiau

  • Mae unrhyw adlewyrchiad, trawsfudiad (translation) a chylchdro yn 'isometreg global'.[4]
  • Mae'r map mewn yn llwybr isometrig ond nid yw'n isometrig.
  • Mae'r map llinol isometrig o Cn iddo ef ei hun yn cael ei ddynodi gan fatricsau unedol.[5][6][7][8]
Remove ads

Isometreg llinol

Os dynodir gofodau fector norm V a W, yna mae'r isometreg llinol yn fap llinol f : VW sy'n cadw neu'n prisyrfio'r norm/au:

ar gyfer pob v o fewn V.[9].

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads