Istanbul
tref fwyaf Twrci From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Istanbul (Twrceg: İstanbul, hefyd 'Stamboul; Cymraeg: Istanbwl)[1] yw dinas fwyaf Twrci a'i ganolfan ddiwyllianol a masnachol bwysicaf. Cyn i Atatürk ei symud i Ankara yn 1923, Istanbul oedd prifddinas y wlad. Yr hen enw arni oedd Caergystennin (Lladin: Constantinopolis, Groeg: Κωνσταντινούπολις, Twrceg: Konstantinopolis), cyn 1930, a Byzantium yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd.

Heddiw, mae tua 15,655,924 (2023)[2] o bobl yn bwy ynddi. Saif ar lannau Culfor Bosphorus ac mae'n amgau'r harbwr naturiol a adnabyddir fel y Corn Euraidd (Twrceg: Haliç, Saesneg Golden Horn). Mae rhan o'r ddinas ar dir Ewrop (Thrace) a'r gweddill yn Asia (Anatolia); hi yw'r unig ddinas fawr yn y byd sy'n sefyll ar ddau gyfandir. Mae hefyd yn brif ddinas Talaith Istanbul.
Istanbul yw'r unig ddinas yn hanes y byd sydd wedi bod yn brifddinas i dair ymerodraeth wahanol, sef yr Ymerodraeth Rufeinig (330–395), yr Ymerodraeth Fysantaidd (395–1453) a'r Ymerodraeth yr Otomaniaid (1453–1923). Dewisiwyd y ddinas yn Brifddinas Diwylliant Ewropeaidd am 2010. Ychwanegwyd rhannau hanesyddol yr hen ddinas, ar y lan Ewropeaidd, at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1985. Yn 2018, daeth dros 13.4 miliwn o ymwelwyr tramor i Istanbul gan wneud y ddinas yn bumed gyrchfan twristiaid mwyaf poblogaidd y byd.[3]
Remove ads
Geirdarddiad
Dywedir bod y gair 'Istanbul' yn deillio o'r ymadrodd Groeg Canoloesol "εἰς τὴν Πόλιν", sy'n golygu "i'r ddinas".[4] Adlewyrchwyd pwysigrwydd Caergystennin yn y byd Otomanaidd hefyd gan ei lysenw "Der Saadet" sy'n golygu'r "y porth i Ffyniant" yn eu hiaith nhw.[5].
Hanes
Mae arteffactau Oes Newydd y Cerrig (y Neolithig), a ddatgelwyd gan archaeolegwyr ar ddechrau'r 21g, yn dangos bod penrhyn hanesyddol Istanbul wedi'i wladychu mor bell yn ôl â'r 6ed mileniwm CC.[6] Roedd hyn yn bwysig yn lledaeniad y Chwyldro Neolithig o'r Dwyrain Agos i Ewrop, am bron i fileniwm cyn cael ei boddi gan lefelau dŵr yn codi.[7][8][9] Daw'r anheddiad dynol cyntaf ar yr ochr Asiaidd, sef y 'Twmpath Fikirtepe', o'r cyfnod Oes Efydd, gydag arteffactau'n dyddio o 5500 i 3500 CC. Ar yr ochr Ewropeaidd, ger pwynt y penrhyn (Sarayburnu), roedd anheddiad Thraciaaidd yn gynnar yn y mileniwm 1af CC.[10][11]
Mae hanes y ddinas, fel y cyfryw, yn cychwyn tua 660 BCE, pan daeth ymsefydlwyr Groegaidd o Megara gan sefydlu Byzantium ar ochr Ewropeaidd y Bosphorus.[12][13] Adeiladodd yr ymsefydlwyr acropolis ger yr Corn Aur ar safle aneddiadau Thraciaidd cynnar, gan danio economi'r ddinas eginol. Profodd y ddinas gyfnod o gael ei rheoli gan Bersia ar droad y 5g CC, ond fe'i hailgipiwyd hi gan y Groegiaid yn ystod y Rhyfeloedd Greco-Persia.[14][15]
Yna parhaodd Byzantium fel rhan o Gynghrair Athenia a'i olynydd, Ail Gynghrair Athenia, cyn ennill annibyniaeth yn 355 CC.[16] Bu'n gysylltiedig â'r Rhufeiniaid am gyfnod hir, a daeth Byzantium yn swyddogol yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yn 73 OC.[17]
Costiodd penderfyniad Byzantium i ochri gyda’r swyddog milwrol Rhufeinig Pescennius Niger yn erbyn yr Ymerawdwr Septimius Severus yn ddrud; erbyn i'r ddinas ildio ar ddiwedd 195 OC, roedd dwy flynedd o warchae wedi gadael y ddinas wedi ei anrheithio.[18] Bum mlynedd yn ddiweddarach, dechreuodd Severus ailadeiladu Byzantium, ac adenillodd y ddinas - ac, yn ôl rhai cyfrifon, rhagorodd - ar ei gwychder blaenorol.[19]
Remove ads
Hinsawdd
Mae gan Istanbul hinsawdd is-drofannol laith (Dosbarthiad hinsawdd Köppen: Cfa), gyda 808 mm o wlybaniaeth y flwyddyn.[20][21][22]
Yn gyffredinol, mae'r hafau yn boeth ac yn glos gyda thymheredd cyfartalog o 26–28 °C a thymheredd isaf o 16–19 °C.[22] Fodd bynnag, mae'r tymheredd yn pasio 32 °C am tua 5 diwrnod bob haf.[22] Ond nid haf yw'r graddau o difrifol a hir y gorllewin a'r de Twrci.
Tuedda'r gaeafau i fod yn oer, gyda thymheredd uchaf cyfartalog o 8–10 °C a thymheredd isaf o 3–5 °C, ond gall y tymheredd ostwng cymaint a'r −5 °C am rai dyddiau.[22] Weithiau gall y tymheredd godi i hyd at y 15 °C yn ystod y gaeaf.[22] Eira a rhew yn gyffredin yn y gaeaf. Ar gyfartaledd ceir yno 19 o ddiwrnodau o eira yn flynyddol, ac ar gyfartaledd ceir yno 21 o ddiwrnodau o rhew yn flynyddol.[22]
Cyfnewidiol yw'r tywydd yn y gwanwyn a'r hydref, a gall fod yn oer neu'n gynnes, er fod y cyfnodau hyn yn bleserus gan amlaf oherwydd y lleithder isel.[22]
Adeiladau a chofadeiladau
- Caferağa Medresseh
- Cumhuriyet Anıtı
- Eglwys Pammakristos
- Hagia Sofia
- Haseki Hürrem Sultan Hamamı
- Mosg Glas
- Obelisg Theodosius
- Palas Dolmabahce
- Palas Ihlamur
- Palas Maslak
- Palas Topkapi
- Palas Yildiz
- Tŵr Galata
- Tŵr GarantiBank
Pobl o Istanbul
- Constantine Mavrocordatos (1711–1769), Tywysog Wallachia.
- Alexander Ypsilantis (1725–1805), Tywysog Wallachia.
- Halide Edip Adıvar (1884–1964), nofelydd a gwleidydd.
- Bülent Ecevit (1925–2006), gwleidydd ac awdur.
- Hülya Koçyiğit (g. 1947), actores.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

