Jesse James

From Wikipedia, the free encyclopedia

Jesse James
Remove ads

Roedd Jesse Woodson James (5 Medi 18473 Ebrill 1882) yn herwr, lleidr banc a llofrudd o Americanwr a aned yn Centerville, Missouri, UDA. Rhwng 1860 a 1881, credir fod y James Gang wedi dwyn cymaint â $200,000. Cynhyrchwyd y ffilm cyntaf ohono yn 1921: Jesse James Under the Black Flag a oedd yn serennu ei fab, o'r un enw.[1]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Jesse oedd aelod enwocaf Giang James-Younger. Ers ei farwolaeth yn St. James, Missouri, yn 1882, mae wedi tyfu'n ffigwr llên gwerin gyfoes sydd wedi ysbrydoli sawl ffilm, llyfr a chylchgrawn cartŵn. Roedd y teulu o dras Gymreig: yr oedd Jesse yn or-ŵyr i William James, a anwyd yn Sir Benfro, oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn 1754 a ymfudodd i Bennsylvania gyda'i deulu.[2] Enw'i daid (sef mab William James) oedd John James.[3]

Remove ads

Gweler hefyd

  • Isaac Davis, mab hynaf Mary Nash a David Davis o Gydweli: gweinidog a lofruddiodd dros 100 o bobl, gan reibio'u gwragedd.
  • Wild Bill Williams, o Ddinbych
  • John T. Morris, sheriff o Collins County, Texas

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads