Jessie Woodrow Wilson Sayre
swffragét (1887–1933) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ffeminist a swffragét o'r Unol Daleithiau oedd Jessie Woodrow Wilson Sayre (28 Awst 1887 - 15 Ionawr 1933) a oedd hefyd yn ferch i Arlywydd yr UDA, Woodrow Wilson ac Ellen Louise Axson. Fel ei thad, roedd yn ymgyrchydd gwleidyddol a gweithiodd yn egnïol dros bleidlais i fenywod, materion cymdeithasol, ac i hyrwyddo galwad ei thad am Gynghrair y Cenhedloedd, a daeth i'r amlwg fel grym ym Mhlaid Ddemocrataidd Massachusetts." Bu'n briod i Francis Bowes Sayre.[1][2] [3]
Fe'i ganed yn Gainesville, Georgia a bu farw yn Cambridge, Massachusetts.
Roedd Jessie Woodrow Wilson yn ail ferch i Woodrow ac Ellen Axson Wilson. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Princeton a Choleg Goucher. Ar ôl iddi raddio o Goucher, bu’n gweithio mewn cartref anheddu yn Philadelphia am dair blynedd.[4]
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd y Sayres i Gaergrawnt, Massachusetts, lle derbyniodd Francis swydd ar gyfadran Ysgol y Gyfraith Harvard. Yno, bu’n gweithio er budd y Blaid Ddemocrataidd, Cynghrair y Cenhedloedd, a Chynghrair dros y Bleidlais i Ferched (League of Women Voters).
Remove ads
Anrhydeddau
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads