Kali
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Un o brif dduwiesau yn Hindŵaeth, sydd bennaf yn cael ei chysylltu ag amser, marwolaeth, a dinistrio, yw Kali (/ˈkɑːliː/; Sansgrit: काली, IAST: Kālī), neu Kalika. Cysylltir Kali â gwybodaeth drosgynnol a hi yw'r gyntaf o ddeg Mahavidya, sy'n grŵp o dduwiesau sy'n rhannu gwybodaeth ryddhaol.[2] O'r sawl duwies Hindŵaidd, Kali yw'r enwocaf. Hi yw'r dduwies ragorol yn y tantrig Hindŵaidd a'r traddodiadau sy'n anrhydeddu'r Kalikula, ac yn ganolog mewn enwadau Hindŵaidd sy'n canolbwyntio ar y dduwies yn unig, yn ogystal â mewn Shifaeth.[3][4] Anrhydeddir Kali yn Fam Ddwyfol, Mam ar y Bydysawd, ac yn egni benywaidd dwyfol.[5][6][7]
Gellir olrhain gwreiddiau Kali i draddodiadau a oedd yn anrhydeddu'r dduwies yn y cyfnod cyn-Fedig a'r Fedig yn Isgyfandir India.[3] Yn eirdarddol, mae'r term Kali yn cyfeirio at rywun sy'n llywodraethu amser neu sy'n ddu. Prif ymddangosiad cyntaf Kali yn llên Sansgrit oedd mewn testun o'r chweched ganrif o'r enw Devi Mahatmya.[3] Mae Kali yn ymddangos mewn sawl stori, a'r un fwyaf poblogaidd yw Kali yn ymddangos yng ngwedd dicter y dduwies Durga er mwyn lladd y cythraul o'r enw Raktabija. Mae eiconograffi arswydus Kali yn ei gwneud yn unigryw ymhlith duwiesau ac yn symboleiddio gwaed, marwolaeth, a dinistrio.
Mae Kali yn gwarchod ac yn rhoddi rhyddhad (moksha) i'w dilynwyr sy'n dod ati fel mae plentyn yn mynd at ei fam. Mae caneuon a cherddi defosiynol sy'n moli natur famol Kali yn boblogaidd ym Mengal, lle mai hi yw un o'r prif dduwiesau a addolir yn ardal, a hithau yn cael ei haddoli fel y Fam Ddwyfol. Mae traddodiadau Shaktaidd a Thantrig yn anrhydeddu Kali fel y realiti eithaf, neu Brahman.[7] Erbyn hyn, mae Kali yn symbol o arwyddocâd i fenywod.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
