Kangchenjunga

From Wikipedia, the free encyclopedia

Kangchenjunga
Remove ads

Kangchenjunga (Nepaleg:कञ्चनजङ्घा) yw'r trydydd mynydd yn y byd o ran uchder (yn dilyn Mynydd Everest a K2). Kangchenjunga yw'r mynydd uchaf yn India a'r ail-uchaf yn Nepal. Ystyr yr enw Kangchenjunga yw "Pum trysor yr eira", gan fod pum copa i'r mynydd.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...

Hyd at 1852, credid mai Kangchenjunga oedd y mynydd uchaf yn y byd, ond y flwyddyn honno profwyd fod Everest a K2 yn uwch. Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf gan y mynyddwyr Prydeinig George Band a Joe Brown ar 25 Mai, 1955. O barch i gredoau lleol, arosasant ychydig droedfeddi'n fyr o'r copa ei hun, traddodiad sydd wedi ei barchu gan ddringwyr diweddarach gan mwyaf.

Gellir cael golygfa wych o'r mynydd o Darjeeling ar ddiwrnod clir.

Y 14 copa dros 8,000 medr
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma
Eginyn erthygl sydd uchod am Nepal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads