Kenneth Griffith

Actor o Gymru (1921-2006) From Wikipedia, the free encyclopedia

Kenneth Griffith
Remove ads

Actor a gwneuthurwr ffilmiau dogfen o Gymru oedd Kenneth Ewen Griffith (12 Hydref 192125 Mehefin, 2006). Cafodd ei eni yn Ninbych-y-Pysgod ac mae wedi ei gladdu ym mynwent Penalun, Sir Benfro.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Actor

Ymddangosodd mewn dwsinau o ffilmiau. Ef oedd y cymeriad 'Jack Phillips' a oedd yn gweithio'r radio ar y Titanic yn y ffilm "A Night to Remember", ac ef oedd 'Whitey' y meddyg hoyw yn "Wild Geese" (1978). Gwerthfawrogir ei waith ar y rhaglen teledu "The Prisoner" gan feirniaid ffilm. Ef yw'r 'hen ddyn dwl' yn "Four Weddings and a Funeral" (1994), y Parch Jones yn "The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain" (1995) a'r 'gweinidog' yn "Very Annie Mary" (2001).

Remove ads

Gwneuthurwr ffilmiau dogfen

O'r chwedegau ymlaen daeth yn adnabyddus am greu ffilmiau dogfen, rhai ohonoynt yn ddadleuol iawn. Gwnaeth ffilm ddogfen am fywyd a marwolaeth y gweriniaethwr Gwyddelig Michael Collins o'r enw Hang up your Brightest Colours; mae'r teitl yn tarddu o linell allan o lythyr oddi wrth George Bernard Shaw at un o chwiorydd Collins. Gwaharddwyd y ffilm am 20 mlynedd.[1]

Dogfen arall a gynhyrfodd y dyfroedd oedd dogfen am Zola Budd, y rhedwraig o Dde Affrica.

Galwodd ei dŷ yn Llundain yn "Michael Collins House"

Ffilmiau

Teledu

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads