Kherson
prifddinas Kherson Oblast yn ne Wcráin From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas a phorthladd yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Kherson yw Kherson (Wcreineg: Херсо́н). Saif ar lannau gorllewinol Afon Dnieper, rhyw 25 km o aber yr afon ar arfordir y Môr Du. Enwir y ddinas ar ôl Khersónēsos, gwladfa Roegaidd a sefydlwyd yn y Crimea yn y 6g CC.
Sefydlwyd caer yma ym 1778 wrth i Ymerodraeth Rwsia ehangu tua'r de-orllewin, a'r porthladd hwn oedd y ganolfan lyngesol a'r iard longau gyntaf a adeiladwyd gan y Rwsiaid yn y Môr Du. Dyrchafwyd yn brifddinas ranbarthol ym 1803, ac wrth i'r 19g fynd rhagddi tyfai'r ddinas ar sail cludo nwyddau ac adeiladu llongau. Ar y cyd â ffyniant y porthladd, datblygodd diwydiannau eraill gan gynnwys peirianneg, puro olew, a gweithgynhyrchu tecstilau.
Yn ystod goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022, Kherson oedd y ddinas fawr gyntaf i ildio i luoedd Rwsia.[1] Ond ym mis Tachwedd 2022, gorchmynnodd Vladimir Putin y gwacáu sifiliaid o'r ardal ar ôl i'r Wcráin ymladd yn ôl.[2]
Gostyngodd y boblogaeth o 328,000 yn 2001 i 284,000 yn 2021.[3]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

