La Paz
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Prifddinas weinyddol Bolifia yn Ne America yw La Paz (sy'n golygu: Yr Heddwch), neu yn llawn Nuestra Señora de La Paz, Chuqi Yapu (Aymara: Chuqi Yapu). Mae hefyd yn brifddinas Talaith La Paz. Yn 2001 roedd poblogaeth y ddinas yn 789,585, a phoblogaeth yr ardal ddinesig, sy'n cynnwys dinasoedd El Alto a Viacha, dros 1.6 miliwn. Sefydlwyd y ddinas yn 1548 gan y conquistadores Sbaenig dan Alonso de Mendoza, ar safle sefydliad brodorol, Laja. Symudwyd y ddinas i'w lleoliad presennol yn nyffryn Chuquiago Marka yn ddiweddarach. Saif yng ngorllewin y wlad, yn yr Andes, 3,600 medr uwch lefel y môr. La Paz yw'r brifddinas genedlaethol uchaf yn y byd, ac yma y ceir cwrs golff a stadiwm pêldroed uchaf y byd, ymhlith pethau eraill.
Remove ads
Adeiladau a chofadeiladau
- Eglwys gadeiriol
- Eglwys San Francisco
- Museo Costumbrista (amgueddfa)
- Museo Nacional de Arte (amgueddfa)
- Palas yr Arlywydd
- Tŷ Pedro Domingo Murillo
Enwogion
- Agustín Morales (1808-1872), milwr a gwleidydd
- Felipe S. Guzmán (1879-1932), gwleidydd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads