Liège
dinas, Gwlad Belg From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas yn Walonia yng Ngwlad Belg yw Liège (Iseldireg: Luik, Almaeneg: Lüttich). Saif yn Wallonia, y rhan Ffrangeg ei iaith o'r wlad, a hi yw prifddinas talaith Liège. O 972 hyd 1795, hi oedd prifddinas Tywysogaeth Liège. Roedd y boblogaeth ym Mai 2009 yn 194,054.

Sefydlwyd y ddinas tua 700, yn dilyn llofruddiaeth Sant Lambert, esgob Tongres-Maastricht. Symudodd ei olynydd, Sant Hubert, ganolfan yr esgobaeth o Maastricht i Liège.
Roedd brenhinllin y Merofingiaid a'r Carolingiaid yn wreiddiol o'r ardal yma, ac mae cerflun o Siarlymaen yng nhanol y ddinas.
Remove ads
Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Curtius
- Eglwys Gadeiriol Saint Paul
- Eglwys Saint Barthélémy
- Eglwys Saint-Jacques
- Neuadd y Ddinas
- Palas y Tywysog-Esgob
- Place du Marché
Enwogion
- Corneille (arlunydd)
- Gérard de Lairesse (arlunydd)
- Jean Delcour (cerflunydd)
- Jean d'Outremeuse (trwbadŵr)
- César Franck (cyfansoddwr)
- Georges Simenon (awdur)
- Justine Henin, chwaraewr tenis
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

