Llanddeiniol, Ceredigion

pentref 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanrhystud, Ceredigion From Wikipedia, the free encyclopedia

Llanddeiniol, Ceredigion
Remove ads

Pentref bychan yng nghymuned Llanrhystud, Ceredigion, Cymru, yw Llanddeiniol.[1][2] Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth y sir tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanrhystud a thua 2 filltir i'r dwyrain o arfordir Bae Ceredigion, tua 6 milltir i'r de o Aberystwyth. Mae'n gorwedd ar y lôn sy'n cysylltu Llanrhystud a Llanilar.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Erthygl am bentref yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Llanddeiniol (gwahaniaethu).

Mae'n debyg y cafodd eglwys Llanddeiniol ei sefydlu gan Deiniol, sant Cymreig o'r 6g sy'n nawddsant dinas Bangor, Gwynedd. Mae'r eglwys bresennol yn adeilad cymharol ddiweddar.[3]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[5]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads