Llanfair Caereinion
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref gwledig a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanfair Caereinion.[1] Saif ar groesfan bwysig ar lôn yr A458, 18 km (11 milltir) i'r gogledd o'r Drenewydd. Mae'n gorwedd yn Nyffryn Banwy a rhed afon Banwy trwy'r pentref. Mae ganddo boblogaeth o 1,810 (2011).[2]
Yn yr Oesoedd Canol Llanfair Caereinion oedd canolfan bwysicaf cantref Caereinion. Yn ôl y traddodiad, sefydlwyd Caereinion gan Einion Yrth, un o feibion Cunedda, ganol y 5g. Ceir hen fryngaer o'r enw Caereinion tua milltir o'r pentref. Roedd eglwys y pentref dan awdurdod Meifod a safai ym Mathrafal, prif lys brenhinoedd Teyrnas Powys, tua tair milltir a hanner i'r gogledd.
Yn fersiwn John Jones o Gellilyfdy o'r chwedl Hanes Taliesin, mae Gwion Bach, ymgnawdoliad cyntaf Taliesin Ben Beirdd, yn "fab gwreang o Lan Uair yn Kaer Einion ym Powys".[3]

Ym 1837 cafwyd terfysg fawr yn y plwyf pan ymosododd tlodion yr ardal ar Swyddog y Tlodion plwyf Llanfair Caereinion oherwydd cyfyngiadau Deddf Newydd y Tlodion a bu rhaid galw'r milisia lleol i mewn i adfer trefn.[4]
Plu'r Gweunydd yw papur bro Llanfair Caereinion a'r cylch.
Lleolir terminws gorllewinol Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion yn y pentref, sy'n denu twristiaid o ganlyniad.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[6]
Remove ads
Tywydd
- Tân yn Llanfair Caereinion 21 Awst 1758:
Digwyddodd hwn ar ddydd Llun Awst 21, 1758. Ymddangosodd adroddiad ar y digwyddiad yn y London Chronicle ar Fedi 9-12 1758 ac mae W.T.R. Pryce yn sôn am y digwyddiad yn ei lyfr Samuel Roberts, Clock Maker . Mae'r gwynt mawr yn cael ei grybwyll Yn gywir efallai.[7] ond roedd yn gyfnod o sychder hefyd. Dyma beth ddywedodd un o gyfoeswyr Samuel Roberts ar y pryd, sef William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn 1758:
- “as a result of dry conditions in early summer, [the hay] was "very thin and short" and the hay making weather was not particularly favourable.[8]
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[9][10][11]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads