Llansanffraid Cwmdeuddwr

pentref ym Mhowys, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Llansanffraid Cwmdeuddwr
Remove ads

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Rhaeadr Gwy yn ardal Maldwyn, Powys yw Llansanffraid Cwmdeuddwr (hefyd: Llansanffraid Cwmteuddwr neu Llansantffraid Cwmdeuddwr; talfyrir yn aml i Cwmdauddwr mewn rhai ffynonellau Saesneg)[1], sydd 58.3 milltir (93.8 km) o Gaerdydd a 154.4 milltir (248.5 km) o Lundain. Fe'i lleolir fymryn i'r gorllewin o dref fechan Rhaeadr Gwy ar y ffordd sy'n arwain i Gwm Elan. Erbyn hyn mae'n fath o "faesdref" i Raeadr Gwy ond mae Rhaeadr Gwy ei hun yn rhan o blwyf eglwysig Llansanffraid Cwmdeuddwr.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Am leoedd eraill o'r enw "Llansanffraid" (neu enwau tebyg) ym Mhowys a siroedd eraill, gweler Llansantffraid (gwahaniaethu).

Llifa Afon Gwy ifanc heibio ger y pentref.

Remove ads

Hanes

Mae eglwys y plwyf yn un o sawl un yng Nghymru a gysgegrwyd i'r Santes Ffraid. Ymddengys fod ail elfen yr enw yn cyfeirio at Gwmwd Deuddwr, un o gymydau canoloesol teyrnas Powys.

Thumb
Y bont ar afon Gwy, Rhaeadr Gwy, gydag eglwys Llansanffraid Cwmdeuddwr yn y pellter

Cynrychiolaeth etholaethol

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads