Llansteffan
pentref yn Sir Gaerfyrddin From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref bychan a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llansteffan. Mae'n gorwedd yn ne'r sir ar aber Afon Tywy, tua 7 milltir i'r de-orllewin o Gaerfyrddin.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Ann Davies (Plaid Cymru).[2]


Remove ads
Hanes
Yn yr Oesoedd Canol bu Llansteffan yn arglwyddiaeth yng Nghantref Gwarthaf. Codwyd Castell Llansteffan yno gan y Normaniaid ar ddechrau'r 12g i warchod y groesfan fferi strategol ar Afon Tywi. Cafodd ei godi ar safle bryngaer o Oes yr Haearn.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Remove ads
Enwogion
Brodor o Lansteffan oedd y casglwr llawysgrifau Cymreig Syr John Williams. Enwir casgliad Llawysgrifau Llanstephan, a gasglwyd gan Syr John, ar ôl y pentref.
Gweler hefyd
- Llansteffan, Powys
- Lannstefan, = Launceston, tref yng Nghernyw
- Castell Llansteffan
- Llawysgrifau Llanstephan
Cyfeiriadau
Oriel
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads