Llychlyn

From Wikipedia, the free encyclopedia

Llychlyn
Remove ads

Gall Llychlyn neu Sgandinafia gyfeirio naill ai at benrhyn Llychlyn, sef y gorynys o gyfandir Ewrop sy'n cynnwys mwyafrif tiroedd Norwy a Sweden, neu'r rhanbarth o Ewrop sy'n cynnwys penrhyn Llychlyn ynghyd â phenrhyn Jutland. O ganlyniad, i fod yn fanwl gywir, dim ond Norwy, Sweden a Denmarc sy'n wledydd Llychlynnaidd.

Thumb
Llun gan loeren o Lychlyn, Chwefror 2003, gyda ffiniau gwleidyddol wedi eu hychwanegu

Serch hyn, fe gyfeirir at y gwledydd Nordig fel Llychlyn yn aml iawn. Mae'r gwledydd Nordaidd yn cynnwys Norwy, Sweden, Denmarc, Gwlad yr Iâ, y Ffindir ynghyd â'u holl drefedigaethau. Weithiau, fe gynhwysir y gwledydd Baltaidd, yn enwedig Estonia, yn y diffiniad ehangach yma o Llychlyn, o ganlyniad i gysylltiadau ieithyddol a diwylliannol rhwng y Ffindir ac Estonia.

Nid yw llawer o drigolion Norwy, Sweden a Denmarc yn cytuno gydag unrhyw ddiffiniad o Llychlyn heblaw am yr un cyfyng sy'n cyfeirio at y tair gwlad yn unig.

Cynrychiolir y gwledydd yn y Cyngor Nordig sy'n cynnwys gwledydd Llychlyn a hefyd tiriogaethau tu hwnt ond sy'n rhannu iaith, traddodiad a hanes tebyg, megis Gwlad yr Iâ, Ynysoedd Ffaro, a'r Ynys Las.

Ceir hefyd Undeb Kalmar a gynrychiolodd gyfnod yn yr Oesoedd Canol hwyr pan oedd Llychlyn wedi ei huno.

Remove ads

Gweler hefyd

Ffeithiau sydyn
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads