Denmarc

gwladwriaeth sofren yn Ewrop From Wikipedia, the free encyclopedia

Denmarc
Remove ads

Mae Teyrnas Denmarc (Daneg: Kongeriget Danmark) neu Denmarc (Daneg: "Cymorth – Sain" Danmark ) yn deyrnas Lychlynnaidd fach yng ngogledd Ewrop. Mae Môr y Gogledd yn amgylchynu'r wlad, ag eithrio'r ffin ddeheuol â'r Almaen.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Remove ads

Hanes

Thumb
Cyfarfod i ffurfio'r cyfansoddiad, 1848

Unwyd Denmarc yng nghyfnod y Llychlynwyr, yn y 10g, gan y brenin Harald Ddantlas († 985), a drodd y wlad at Gristnogaeth. Yn yr 11g, cymerodd Denmarc feddiant ar Loegr am gyfnod. Yn 1397, unodd a Sweden a Norwy. Parhaodd yr undeb a Sweden hyd 1523 a'r undeb a Norwy hyd 1814. Arferai Gwlad yr Iâ fod ym meddiant Denmarc hefyd, hyd nes iddi ddod yn annibynnol yn 1944. O 1940 hyd 1945, meddiannwyd Denmarc gan yr Almaen. Yn 1973 daeth yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Remove ads

Daearyddiaeth

Denmarc yw'r fwyaf deheuol o wledydd Llychlyn. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o orynys Jylland (Jutland) a thua 405 o ynysoedd. Y mwyaf o'r rhain yw Sjælland, Fyn, Lolland, Falster, Langeland, Als, Møn, Bornholm ac Amager. Tir isel yw bron y cyfan o'r wlad, gyda mwy na 65% yn dir amaethyddol. Y copa uchaf yw Møllehøj, 170.86 medr.

Saif y brifddinas ar ynys Sjælland ("Seeland"), sydd a chulfor Øresund yn ei gwahanu oddi wrth Sweden. Cysylltir Copenhagen a dinas Malmö yn Sweden gan Bont Øresund a thwnel. Yr unig ffin ar dir sych yw'r ffin a'r Almaen yn y de.

Dinasoedd

Copenhagen 502,204(1,086,762 yn yr ardal ddinesig)
Århus 228,547
Odense 186,595
Aalborg 160,000
Esbjerg 82,312
Randers 55,897
Kolding 54,526
Vejle 49,782
Horsens 49,457
Roskilde 43,753
Eginyn erthygl sydd uchod am Ddenmarc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Ffeithiau sydyn
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads