Llyfr Coch Hergest

llawysgrif Gymraeg a ysgrifennwyd rhwng 1382-1410 From Wikipedia, the free encyclopedia

Llyfr Coch Hergest
Remove ads

Llawysgrif hynafol yn yr iaith Gymraeg, a ysgrifennwyd tua 1382-1410, yw Llyfr Coch Hergest. Mae’n un o brif ffynonellau ar gyfer chwedlau'r Mabinogi a cheir ynddi hefyd sawl testun rhyddiaith Cymraeg Canol arall ac adran bwysig o gerddi. Mae'r gwaith wedi'i osod yn drefnus iawn ac yn cynnwys Rhyddiaith, barddoniaeth, gweithiau brodorol, addasiadau o ieithoedd eraill a chyfieithiadau.[1]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Awdur ...
Thumb
Y gyfrol gyfan ar Comin Wicimedia

Cyfeiriwyd ati fel 'y crynhoad llawysgrif sengl cyfoethocaf o lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol' (Lewis 1971: 481), 'llyfrgell mewn un gyfrol', ac 'y trymaf o'r llyfrau canoloesol yn Gymraeg o bell ffordd, y mwyaf yn ei ddimensiynau ... a'r mwyaf trwchus' Huws (2000: 82).[2]

Roedd Llyfr Gwyn Hergest yn llawysgrif a sgwennwyd yn rhannol gan Lewis Glyn Cothi, ond yn 1810 cafodd ei ddinistrio mewn tân.

Roedd ym meddiant y brudiwr a noddwr Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan ac Ynysdawe ar ddechrau'r 15g. Gwyddys ei fod yn berchen ar Lyfr Coch Hergest gan fod cofnodion ynddo amdano gan y copïydd proffesiynol Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuellt, ac mae'n bosibl mai ar gyfer Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynysforgan yng Nghwm Tawe y lluniwyd y llawysgrif. Ymddengys ei fod wedi gwneud cryn dipyn o waith i Hopcyn a cheir dim llai na phum awdl i Hopcyn yn y Llyfr Coch yn ogystal â gwaith gan: Llywelyn Goch ap Meurig Hen, Dafydd y Coed, Madog Dwygraig, Meurig ab Iorwerth ac Ieuan Llwyd ab y Gargam. Yn ogystal, ceir awdl gan Y Proll i'w fab Tomas ap Hopcyn, yntau'n noddwr beirdd o fri.[3]

Daw’r enw am ei bod wedi ei rwymo mewn lledr coch, a’i gysylltiad gyda Phlas Hergest yn Swydd Henffordd. Ymddengys iddo ddod i feddiant John Vaughan o Dre-tŵr yn 1465 ac iddo fynd oddi yno i Hergest. Bu ym meddiant y teulu hyd ddechrau'r 17g a dyna pam y cafodd yr enw. Fe roddwyd y llyfr gan y Parch. Thomas Wilkins i Goleg Yr Iesu, Rhydychen yn 1701, ac mae ar gadw yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen, ac wedi'i ddigideiddio ar drwydded agored.

Remove ads

Cynnwys

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads