Llywelyn ap Gwilym Lygliw

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Bardd o Gymro oedd Llywelyn ap Gwilym Lygliw (fl. diwedd y 14g - dechrau'r 15g), a oedd yn perthyn i'r Llygliwiaid, teulu o feirdd y cysylltir eu henwau ag ardaloedd Powys a Meirionnydd.[1]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Galwedigaeth ...

Bywgraffiad

Ni wyddys dim o gwbl am hanes y bardd. Roedd yn perthyn i'r Llygliwiaid ond ni cheir ei enw ef nac eiddo ei dad yn yr achau.[1]

Cerdd

Un gerdd yn unig o'i waith sydd ar glawr. Yn y rhan fwyaf o'r 24 test ohoni yn y llawysgrifau mae'n cael ei phriodoli i Siôn Cent (15) neu eglwyswr o'r enw Hywel Hir (7), ond ar sail nodweddion mydryddol ac ieithyddol y gerdd mae'r awdurdodaeth hynny yn cael ei gwrthod a thueddir i'w derbyn fel gwaith Llywelyn ap Gwilym Lygliw.[1]

Prif bwnc y cywydd yw gweledigaeth o Uffern gan Pawl yn nhraddodiad cyfarwydd yr Oesoedd Canol lle mae gweledigaethau o'r math yn gyfrwng i rybuddio yn erbyn drychynfeydd y byd yr ochr arall i'r bedd sy'n disgwyl yr annuwiol. Rhagflaenir hyn gan fath o hanes mydryddol o'r Iachawdwriaeth yng Nghrist dros Bum Oes y Byd ac fe'i diweddir gydag adran sy'n disgrifio'r Saith Pechod Marwol a'r llwybr i'r Nefoedd.[2]

Remove ads

Llyfryddiaeth

  • Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill, gol. Rhiannon Ifans (Aberystwyth, 2000)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads