Llywelyn ap Seisyll

brenin Deheubarth a Gwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Brenin Gwynedd a Deheubarth oedd Llywelyn ap Seisyll (bu farw 1023). Cyfeirir ato weithiau fel Llywelyn ap Seisyllt.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Bywgraffiad

Ni wyddir fawr am Seisyll (neu Seisyllt), tad Llywelyn. Mae'n bosibl nad oedd o waed brenhinol, er fod mam Llywelyn, Angharad, yn ferch i Maredudd ab Owain, fu'n frenin rhan helaeth o dde a gogledd Cymru am gyfnod.

Daeth Llywelyn yn frenin Gwynedd yn 1018 pan gafodd fuddugoliaeth dros Aeddan ap Blegywryd mewn brwydr lle lladdwyd Aeddan a'i bedwar mab. Yn ddiweddarch cipiodd deyrnas Deheubarth hefyd, gan ennill buddugoliaeth dros Rhain, Gwyddel oedd yn honni bod a hawl i'r deyrnas, yn Abergwili yn 1022. Yn ôl Brut y Tywysogion, roedd teyrnasiad Llywelyn yn gyfnod llewyrchus, ond bu farw yn annisgwyl yn 1023.

Roedd ei fab, Gruffudd ap Llywelyn, yn rhy ieuanc i geisio cipio'r orsedd pan fu farw ei dad, ond yn ddiweddarach daeth yn frenin Cymru gyfan.

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  • John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
Rhagflaenydd:
Aeddan ap Blegywryd
Brenin Gwynedd
10181023
Olynydd:
Iago ab Idwal ap Meurig
Rhagflaenydd:
Cadell ab Einion
Brenin Deheubarth
10181023
Olynydd:
Rhydderch ab Iestyn
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads