Louis XIV, brenin Ffrainc
actor, teyrn, gwleidydd, casglwr celf (1638-1715) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Brenin Ffrainc o 14 Mai 1643 tan 1 Medi 1715 oedd Louis XIV (Louis-Dieudonné neu le Roi-Soleil) (5 Medi 1638 – 1 Medi 1715). Bu'n frenin am gyfnod hirach nag unrhyw frenin arall, o genedl a'r maint hwn: 72 blwyddyn a 110 diwrnod.[1]
I louis mae'r diolch am gryfhau Ffrainc yn uned a oedd yn cael ei rheoli o'i phrifddinas, Paris. Dileodd y syniad fod ffiwdaliaeth yn dderbyniol i raddau helaeth. A thrwy fynu fod yr uchelwyr cefnog yn byw yn ei balas yn Versailles, a oedd cyn hynny'n blasty hela, llwyddodd i ddofi'r pendefigion, hyd yn oed y rhai hynny a fu'n aelodau o Wrthryfel y Fronde. Roedd yn ymgorfforiad o frenhiniaeth absoliwt ac elfennau waethaf yr Ancien Régime a ddaeth i ben gyda'r Chwyldro Ffrengig.
Remove ads
Plentyndod a phriodas
Cafodd ei eni yn Saint-Germain-en-Laye, yn rhanbarth Île-de-France.[2] Ei dad oedd y Brenin Louis XIII a'i fam oedd Ann o Awstria (1601 – 1666). Fe'i galwyd yn Louis Dieudonné (Louis, rhodd gan Dduw)[3] ynghyd a'r teitl traddodiadol, Ffrengig y darpar frenin: Y Dauphin.[4] Pan anwyd ef roedd ei rieni wedi bob yn briod am 23 mlynedd, ac wedi colli pedwar plentyn ar eu genedigaeth, rhwng 1619 ac 1631. Roedd y gwleidyddion ac uchelwyr y cyfnod, felly, gweld geni Louis yn rodd gan Dduw, ac yn wyrth.
Ei wraig gyntaf oedd Maria Teresa o Awstria (1638–1683) (Sbaeneg: María Teresa; Ffrangeg: Marie-Thérèse), tywysoges o Sbaen. Cawsant chwech o blant ond un yn unig a dyfodd yn oedolyn: Monseigneur. Bu farw Maria Teresa yn 1683 a phriododd Louis ei gariad newydd Madame de Maintenon yng ngaeaf 1685-86.
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads